Hardraw Force

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hardraw Force

Rhaeadr yng Ngogledd Swydd Efrog, Lloegr ydy Hardraw Force. Mae'r dwr ynddi hi, sy wedi llifo oddi ar Great Shunner Fell ac Abbotside Common, yn disgyn 100 troedfedd, dyma'r rhaeadr ddi-fwlch uchaf yn Lloegr, heblaw rhaeadrau dan ddaear megis Gaping Ghyll (300m).

Mae'r rhaeadr mewn coed bach ar dir breifat sy'n perthyn i'r tafarn Green Dragon yn y pentref Hardraw, ac mae rhaid i ymwelwyr basio trwy'r dafarn (ac i dalu dwy bunt) i gyrraedd gwaelod y rhaeadr. Mae Llwybr Cenedlaethol, Llwybr y Pennines, yn mynd agos at y rhaeadr i'r gorllewin a'r de.