Hannah Arendt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
BM-Hannah-Arendt2006.jpg

Un o athronwyr gwleidyddol pwysicaf yr ugeinfed ganrif oedd Hannah Arendt (14 Hydref 1906 – 4 Rhagfyr 1975, yn Linden, Hanover, yr Almaen). Roedd hi'n unig blentyn mewn teulu Iddewig dosbarth canol oedd yn aelodau o'r Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol. Fel unig blentyn fe gafodd hi holl sylw ei rhieni ond fe fu tarfu ar yr hapusrwydd pan fu farw ei Thad a'i Thad-cu yn 1913. Yn y Rhyfel Byd cyntaf fe symudodd hi a'i Mam i Ferlin a dyma'r cyfnod pan ddechreuodd hi gael diddordebau gwleidyddol. Mae'n bwysig nodi iddi ffoi oddi wrth y Natsiaid i Ffrainc yn 1933 ac yna ymlaen i'r UDA yn 1941 ple buodd hi'n byw hyd ei marwolaeth yn 1975.

Totalitariaeth[golygu]

Mae astudiaeth Arendt o Dotalitariaeth wedi ei seilio ar ei hymgais hi i ddeall ei brif actorion a'i brif gynhwysion. Mae Arendt yn ysgrifennu o brofiad personol. Er na fu hi, fel Iddewes, yn dioddef llid Totalitariaeth (fe ddihangodd hi i Baris ac yna i'r UDA oddi wrth erledigaeth y Natziaid) mae eu gweithiau hi, gan gynnwys 'The Origins of Totalitarianism,' wedi eu hysgrifennu o safbwynt y rhai fu'n dioddef o ganlyniad i'r ffenomenon.

Prif waith Arendt yn trafod totalitariaeth ydy 'The Origins of Totalitarianism', hon oedd y gyfrol yn 1951 wnaeth sefydlu Arendt fel un o feddylwyr gwleidyddol mwyaf y byd cyfoes. Mae'n werth nodi fod y term 'totalitariaeth' yn un dadleuol, hynny yw 'contested concept' does dim un diffiniad awdurdodedig. Nid oedd diffiniad Arendt o dotalitariaeth yn perthyn i unrhyw ysgol ac i ddweud y gwir roedd yn dra wahanol i'r diffiniad mwy traddodiadol. Fe ddarganfu Arendt enghreifftiau o dotalitariaeth ar bob pegwn gwleidyddol, ar y chwith yn ogystal ag ar y dde. Nid oes yna un model o dotalitariaeth ond bod y mathau gwahanol yn cario ystyr a chanlyniad ymarferol gwahanol. Rwyf wedi rhoi lle i'r cefndir yma oherwydd fod awduron eraill yn pwysleisio dro ar ol tro fod deall theori Arendt ar dotalitariaeth yn ddibynnol ar ddeall ei fod yn annibynnol o'r hyn a gysylltir gyda totalitariaeth fel arfer.

Mae Arendt yn cychwyn edrych ar dotalitariaeth fel peae totalitariaeth yn fynegiant gwreiddiol. Hynny yw mae'n drefn ple mae pobol yn ceisio trefn neu ddulliau newydd ac yn torri ar y status quo. Noda Canovan mae eironi y datguddiad yma fod totalitariaeth trwy ei wreiddioldeb yn y diwedd yn lladd ar unigolrwydd a gwreiddioldeb eraill. Mewn trefn dotalitaraidd megis y Drydedd Reich fe noda Arendt fod dynion yn ceisio pethau newydd; erllychdra'r peth yw fod dynion yn defnyddio eu cyd-ddyn fel mochynod-cwta:

"The concentration camps are the laboratories where changes in human nature are tested, and their shamefulness therefore is not just in the busness of their inmates and those who run them according to stric “scientific” standards; it is the concern of all men." (Hannah Arendt: “The Origins of Totalitarianism” yn “The Portable Hannah Arendt” Peter Baehr gol. (Harmondsworth: Penguin, 2000), 139.)

Mewn trefn dotalitaraidd mae popeth yn bosib ar yr amod fod yr awdurdod uchaf, yr enghreifftiau mae Arendt yn rhoi ydy Hitler a Stalin eu hunain, yn cael dominyddu'n llwyr. Noda Canovan '...the path to this goal, discovered separately by Hitler and by Stalin, lies through terror on the one hand and ideology on the other'. Yr ideoleg fan yna, yn fy marn i, sy'n gyrru'r brawychiaeth. Roedd Arendt o'r farn fod eidioleg y symudiad totalitaraidd yn un tu hwnt o beryglus oherwydd fe roddai bwyslais ar yr hyn oedd, yn eu tyb hwy ac yn nhyb y rhai a'i dilysant, yn gwneud synnwyr. Er enghraifft byddai Stalin, trwy ei ideoleg, yn rhoi pwyslais mawr ar yr ymrafael rhwng y dosbarthiadau ac felly yn portreadu y Bwrglais fel y gelyn pennaf. Ag ystyried hynny felly yr hyn oedd yn 'gwneud synnwyr' i gyfundrefn Stalin oedd difa/llofruddio pob aelod o'r Bwrglais. O safbwynt y totalitarwyr roedd y cyfan yn gwneud synnwyr ond yr hyn sydd wedi digwydd yw fod totalitariaeth wedi ymddieithrio ideoleg oddi wrth synnwyr cyffredin a realiti.

Fe roddai Arendt sylw i'r pwyslais rhoddai arweinwyr totalitaraidd ar reidrwydd hanesyddol. Gwelai Arendt eu bod nhw'n gweld ideoleg fel y ffordd i esbonio'r dyfodol yn ogystal a'r gorffennol, dysgant hyn i'w dilynwyr fel ffeithiau nid ideoleg yn ei ystyr draddodiadol o fod yn gysyniad dadleuol (contested concept). Felly yr unig beth yr oedd trefn dotalitaraidd yn ei gwneud oedd gweinyddu'r 'ffeithiau' hanesyddol yma.

Dyna gyffwrdd yn fras iawn ar ymdriniaeth Arendt ar dotalitariaeth a throi yn ôl i edrych ar yr 'origins'. Dim ond trydydd rhan o 'The Origins of Totalitarianism' sy'n delio yn uniongyrchol gyda thotalitariaeth; ond mae dau rhan gyntaf y gwaith yn gosod y llwyfan. Noda Arendt mae dilynwyr mwyaf totalitariaeth oedd y “massess”; pobloedd gwerinol oedd wedi colli ymddiriedaeth yn eu llywodraethau, pobl di-waith oedd yn wynebu caledi, i'r bobl yma roedd Hitler yn atyniadol iawn. Ond nid yw Arendt yn ceisio esbonio gwraidd totalitariaeth yn y ffordd draddodiadol y gwna haneswyr wrth esbonio sut daeth Hitler i rym yng ngwyneb sefyllfa socio-economaidd yr Almaen. Oherwydd fel y noda Canovan:

"Starting from completely different backgrounds and circumstances, Nazism and Stalinism had arrived at this same terminus, demonstrating that what had happened under the two regimes could not be reduced to events within the particular histories of Germany and Russia." (Margret Canovan: “Arendt's theory of totalitarianism” yn “The Cambridge Companion to Hannah Arendt” Dana Villa gol. (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2000), 29.)

Felly os nad ydy gwreiddiau totalitariaeth i'w canfod o fewn gwladwriaethau rhaid bod ei wreiddiau yn perthyn i syniad neu symudiad rhyngwladol traws-wladwriaethol. Symudiad neu syniad o'r fath yw 'Imperialaeth' pwnc sy'n cael sylw manwl yn 'The Origins of Totalitarianism'. Dadleuodd Arendt '...imperialism set the stage for totalitarianism'.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Hannah Arendt: “Eichman in Jerusalem – a report on the banality of evil” (Harmondsworth: Penguin, 1976)
  • George Kateb: “Hannah Arendt – Politics, Conscience, Evil” (Rhydychen: Martin Robertson & Co., 1984)
  • David Watson: “Arendt” (Llundain: Harper Collins, 1992)
  • Robert Benewick a Philip Green Gol.: “Twentieth Century Political Thinkers” (Llundain: Routledge, 1992)
  • Margaret Canovan: “Hannah Arendt – a reinterpretation of her political thought” (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1992)
  • Dana Villa gol.: “The Cambridge Companion to Hannah Arendt” (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2000)
  • S. Benhabib: “Hannah Arendt and the Redemptive Power of Narrative” yn “Social Research” (Efrog Newydd: 1990) 57/1, Gwanwyn 1990.
  • Peter Baehr gol.: “The Portable Hannah Arendt”, (Harmondsworth: Penguin, 2000)

Rhai o weithiau Arendt[golygu]

  • Der Liebesbegriff bei Augustin. Versuch einer philosophischen Interpretation (1929)
  • The Origins of Totalitarianism (1951)
  • Rahel Varnhagen: The Life of a Jewish Woman (1958)
  • The Human Condition (1958)
  • Between Past and Future (1961)
  • On Revolution (1963)
  • Eichmann in Jerusalem: A Report on the Banality of Evil (1963)
  • Men in Dark Times (1968)
  • Crises of the Republic: Lying in Politics; Civil Disobedience; On Violence; Thoughts on Politics and Revolution (1969)
    "Civil Disobedience" originally appeared, in somewhat different form, in The New Yorker. Versions of the other essays originally appeared in The New York Review of Books.
  • The Jew as Pariah: Jewish Identity and Politics in the Modern Age; Edited by Ron H. Feldman (1978)
  • Life of the Mind (1978)