Hanes Mali

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mosg Djingareiber yn Tombouctou, yn un o'r hynaf ym Mali

Mae hanes Mali yn cychwyn tua'r 4edd ganrif OC. O'r amser yna ymlaen bu Mali yn rhan o sawl ymerodraeth yn olynol, yn cynnwys Ymerodraeth Ghana, Ymerodraeth Mali (Mansu Musa oedd ei hymerodr galluocaf) ac Ymerodraeth Gao.

O'r 11eg ganrif ymlaen roedd Tombouctou (Timbuktu) yn ganolfan masnach a dysg bwysig. Erbyn y 14eg ganrif roedd ei phrifysgol yn atynu ysgolheigion o bob cwrdd o'r byd Islamaidd, o'r Maghreb dros y Sahara yn y gogledd i'r Dwyrain Canol.

Yn ystod y 19eg ganrif cafodd Mali ei meddianu gan Ffrainc a'i hymgorffori yng Ngorllewin Affrica Ffrengig, oedd yn cael ei rheoli o'r brifddinas wladfaol yn Saint-Louis (ar arfordir Sénégal). Llwyddodd y Maliaid i ennill hunanlywodraeth fewnol yn 1958 fel aelod o'r Gymuned Ffrengig. Ffurfiwyd gwladwriaeth newydd gyda Sénégal yn 1959 dan yr enw 'Ffederasiwn Mali', ond aeth Mali ei ffordd ei hun ar 22 Medi 1960 fel gwladwriaeth annibynnol.

Gweler hefyd [golygu]

Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Flag of Mali.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Mali. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato