Halogen

Oddi ar Wicipedia
Mae'r erthygl hon yn trafod grŵp o elfennau yn y tabl cyfnodol: ar gyfer y bwlb golau, gweler yr erthygl goleuadau halogen.
Grŵp → 17
↓ Cyfnod
2 9
F
3 17
Cl
4 35
Br
5 53
I
6 85
At
7 117
Uus

Allwedd
Halogen
Nwy
Hylif
Elfen primordaidd
Ers dadfeiliad
Synthetig

Mae'r halogenau yn gyfres gemegol o elfennau. Mae'r elfennau hyn yn ffurfio grŵp 17 (hen steil:7, VII neu VIIA) o'r tabl cyfnodol:

fflworin (F), clorin (Cl), bromin (Br), ïodin (I), astatin (At) ac un heb ei ddarganfod hyd yn hyn, ununseptiwm (Uus). Ystyr y term halogen yw 'crëwr halwyn', sef rhywbeth sy'n ffurfio halwyn os caiff ei uno gyda metel.

Mae'r elfennau yn cynnwys moleciwlau deuatomig yn eu ffurfiau naturiol. Mae ganddynt ddiffyg o un electron yn eu plisg falens, felly mae arnynt angen ennill un electron a ffurfio ïon negatif gyda gwefr unigol, Hal-. Gelwir yr ïonau hyn yn ïonau halid, felly mae halwynau sy'n eu cynnwys yn cael eu galw'n halidau.

Elfennau adweithiol iawn yw'r halogenau, felly pan mae gormod o halogen yn bresennol fe allant niweidio neu wenwyno organebau biolegol. Defnyddir clorin ac ïodin fel diheintyddion ar gyfer steryllu'r cyflenwad dŵr yfed, pyllau nofio, trîn anafiadau, a glanhau llestri ac arwynebau lle mae hylendid yn hanfodol. Maent yn lladd bacteria a micro-organebau eraill, proses a elwir yn steryllu. Defnyddir eu hadweithedd mewn cannyddion hefyd, ac mae maint sylweddol o glorin yn cael ei ddefnyddio yn y diwidiant papur yn flynyddol i sicrhau fod y papur yn hollol wyn.

Pan gyfunir ïon halid gydag ïon hydrogen unigol, H+ ffurfir asidau hydrohalig, h.y. HF, HCl, HI, sy'n gyfres nodweddiadol o asidau hynod o gryf. Dylai asid hydroastatig, HAt, gael ei ystyried yn un o'r asidau hyn ond nid yw'n werth ei gynnwys oherwydd ansefydlogrwydd niwclear yr elfen ymbelydrol astatin.

Gall halogenau gwahanol adweithio gyda'i gilydd i ffurfio cyfansoddion rhynghalogen. Mae'r cyfansoddion deuatomig (BrF, ICl, ClF ayb) yn debyg iawn i'r halogenau elfennol. Mae cyfansoddion mwy cymhleth yn ffurfio, yn cynnwys llawer o gyfansoddion AB3, a rhai uwch (BrF5, IF5, IF7). Mae gan y rhain priodweddau tra gwahanol i'r elfennau, yn cynnwys ymdoddbwyntiau sylweddol uwch.

Mae nifer o gyfansoddion synthetig yn cynnwys atomau halogen fel rhan o'u hadeiledd. Mae nifer o blastigion yn cynnwys halogenau, gyda PVC (polyfinylclorid) a PTFE (PolyTetraFflworoEthen) yn ddau o'r rhai mwyaf cyffredin. Yn fiolegol, clorin yw'r halogen pwysicaf, gydag ïonau clorid yn cyfrannu at brosesau gweithredu'r ymennydd. Defnyddir y mymryn lleiaf o ïodin yn y prosesau o greu rhai hormonau, fel thyrocsin. Er nad yw bromin na fflworin yn hanfodol ar gyfer bywyd biolegol, credir bod mymryn o fflworid yn cryfhau'r dannedd yn erbyn pydredd.

Gwelir nifer o dueddiadau wrth symud i lawr y grŵp o elfennau, yn cynnwys cynnydd yn yr ymdoddbwynt a'r berwbwynt, a gostyngiad mewn adweithedd ac electronegatifedd.

Halogen Màs atomig (u) Ymdoddbwynt (K) Berwbwynt (K) Electronegatifedd (Pauling)
Fflworin 18.998 53.53 85.03 3.98
Clorin 35.453 171.6 239.11 3.16
Bromin 79.904 265.8 332.0 2.96
Ïodin 126.904 386.85 457.4 2.66
Astatin (210) 575 610 ? 2.2
Ununseptiwm (291)* * * *

* Nid yw Ununseptiwm eto wedi ei ganfod; lle na ymddengys gwerth yn y tabl nid yw wedi ei fesur, a lle yr ymddengys gwerth amcangyfrif ydyw ar sail mesuriadau o elfennau eraill.