Hallstatt (pentref)

Oddi ar Wicipedia
Hallstatt

Pentref yn yr ardal Salzkammergut, Awstria yw Hallstatt, Awstria Uchaf. Saif ar lan y Hallstätter See (llyn). Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd gan y pentref boblogaeth o 946.

Crud y gwareiddiad Celtaidd[golygu | golygu cod]

Enwir y diwylliant Hallstatt ar ôl Hallstatt. Saif y pentref yn ardal Salzkammergut yn Awstria lle darganfuwyd mynwent gynhanesyddol enfawr oedd yn cynnwys 1045 o feddau. Fe'i darganfuwyd gan Ramsauer yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y bobl yn Hallstatt yn cloddio am halen o'r wythfed ganrif Cyn Crist hyd y bumed. Mae arddull y nwyddau yn y beddau yn nodedig iawn a cheir gwrthrychau o'r un arddull ledled Ewrop.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Awstria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.