Haf Bach Mihangel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r enw Haf Bach Mihangel yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio digwyddiad annisgwyl yn y tywydd, mewn cyfnod pan fydd yr haf wedi gorffen a'r hydref wedi cychwyn, lle mae tywydd yr haf yn dod yn ôl am gyfnod byr o rai diwrnodau. Fel arfer bydd yn digwydd yn y dyddiau o gwmpas Gŵyl San Mihangel ar 29 Medi, sy'n esbonio'r enw.