Haf Llewelyn

Oddi ar Wicipedia
Haf Llewelyn
Ganwyd17 Mehefin 1964 Edit this on Wikidata
Cwm Nantcol Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, athro Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Tir na n-Og Edit this on Wikidata

Awdures ac athrawes ymgynghorol yw Haf Llewelyn (ganwyd 17 Mehefin 1964) sydd wedi ysgrifennu llyfrau ar gyfer plant ac oedolion.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd a magwyd Haf yng Nghwm Nantcol, Ardudwy, ond erbyn hyn mae hi'n byw yn Llanuwchllyn, ger y Bala. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llanbedr ac Ysgol Uwchradd Ardudwy, Harlech [1]

Bu'n gweithio fel athrawes gynradd, yn ogystal â gweithio ar brosiectau Sgwad 'Sgwennu. Enillodd wobr Tir na n-Og y Cyngor Llyfrau am ei nofel Diffodd y Sêr am hanes Hedd Wyn. Bu'n cymryd rhan mewn nifer o dalyrnau a stompiau dros y blynyddoedd (fel aelod o dîm Talwrn Penllyn) a cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth – Llwybrau, yn 2009. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion, Y Graig, yn 2010, a cyhoeddodd ei ail, Mab y Cychwr yn 2012.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyhoeddiadau detholedig[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Adnabod Awdur: Haf Llewelyn (2014). Cyngor Llyfrau Cymru (2014). Adalwyd ar 22 Medi 2016.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.