Gyantse

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gyantse gyda chaer Dzong yn y cefndir

Dinas yn Swydd Gyangzê, Rhaglawiaeth Shigatse, Tibet, yw Gyantse (hefyd Gyangtse, Gyangdzê; Tibeteg: རྒྱལ་རྩེ rGyal rtse; Tseinaeg: 江孜镇་). Dyma'r ddinas bedwerydd mwyaf yn Nhibet (ar ôl Lhasa, Shigatse a Chamdo). Mae'n gorwedd 3,977 medr (13,050 troedfedd) i fyny yn nyffryn Nyang-Chu ar y "Draffordd Cyfeillgarwch" dros yr Himalaya sy'n cysylltu Kathmandu, Nepal a Lhasa, Tibet.

Mae gan y ddinas leoliad strategol yn nyffryn Nyang-chu ar groesffordd llwybrau masnach hynafol i Dibet o ddyffryn Chumbi, Yatung a Sikkim. O Gyantse mae llwybrau yn rhedeg i gyfeiriad Shigatse a hefyd dros fwlch y Karo-La i Ganolbarth Tibet. Codwyd caer fawr yno i amddiffyn y ffordd o'r de i gyfeiriad Dyffryn Tsangpo a Lhasa. Daliodd y gaer allan am sawl diwrnod yn erbyn byddin Brydeinig dan Francis Younghusband yn 1904.

Mae Gyantse yn enwog am ei Kumbum (yn llythrennol, '100,000 delwedd') ym Mynachlog Palcho, sef y chörten mwyaf yn Nhibet. Noddwyd y Kumbum gan un o dywysogion Gyantse yn 1427 ac roedd yn ganolfan bwysig i ysgol Sakya Bwdhaeth Tibet. Mae'r strwythur yn cynnwys 77 capel ar ei chwech llawr, gyda thros 10,000 darlun wal, rhai ohonynt yn dangos dylanwad Nepalaidd amlwg.

Dioddefodd Gytantse yn enbyd pan oresgynwyd Tibet gan Weriniaeth Pobl China. Cafodd ei dinistrio bron yn 1954 a gorfodwyd rhan helaeth o'r boblogaeth i adael gan y Chineiaid yn 1959. Yn ystod y Chwyldro Diwylliannol anrheithwyd a difethwyd y fynachlog a'r Kumbum enwog ac mae llawer o'r hyn a welir yno heddiw yn waith diweddarach i geisio adfer y safleoedd hynny sydd a lle arbennig yn hanes a diwylliant Tibet.