Gwyrdd y Burren

Oddi ar Wicipedia
Calamia tridens
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Calamia
Rhywogaeth: C. tridens
Enw deuenwol
Calamia tridens
Hufnagel, 1766

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyrdd y Burren (neu wyrdd y Boireann), sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyrddion y Burren; yr enw Saesneg yw Burren Green, a'r enw gwyddonol yw Calamia tridens.[1][2] Mae i'w ganfod yn Ewrop. Daw'r enw o ardal yng ngogledd-orllewin Swydd Clare, sef un o siroedd traddodiadol Iwerddon; ystyr yr enw yn y Gaeleg yw "y graig fawr". Dyma'r unig ran o ynysoedd Prydain lle gellir ei weld. Arferid defnyddio'r enw Claddagh amdano ar un adeg.

Y wyrdd Boireann

37–42 mm ydy lled ei adenydd ac mae hyd yr adain blaen yn 17–18 mm. Un genhedlaeth sydd ac mae'r oedolyn i'w weld yn hedfan rhwng Mehefin a Medi.

Cafodd ei ddarganfod gyntaf yn 1949 gan William Stuart Wright a ddanfonodd y gwyfyn i'r naturiaethwr Eric William Classey a ddosbarthodd ef a'i gofrestru.

Prif fwyd y siani flewog ydy gwair o deulu'r Molinia caerulea.

Y planhigyn Molinia caerulea

Gwyfyn tebyg[golygu | golygu cod]

Mae'r Gwyrdd godreog yn eitha tebyg iddo.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyrdd y Burren yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.