Gwynllŵg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yr oedd cantref Gwynllŵg (llurguniad Seisnig : Wentloog) yn un o saith cantref Morgannwg yn ne-ddwyrain Cymru. Roedd yn gorwedd rhwng afonydd Rhymni a Wysg.

Yn wreiddiol bu Gwynllŵg yn rhan o deyrnas Glywysing. Fe'i enwir ar ôl Gwynllyw, sant o'r 5ed ganrif. Dyma gantref mwyaf dwyreiniol Morgannwg, ar ffurf llain gul o dir rhwng cantref Senghennydd i'r gorllewin a Gwent i'r dwyrain, yn ymestyn o lan Môr Hafren i fyny i droedfryniau Brycheiniog.

Yn ôl y rhestr o gantrefi a chymydau yn Llyfr Coch Hergest, rhennid Gwynllŵg yn bump cwmwd :

  • Cwmwd yr Haidd
  • Cwmwd y Dref Berfedd
  • Cwmwd Edelygion(?)
  • Cwmwd Eithaf
  • Cwmwd y Mynydd

Fodd bynnag mae rhaid trin tystiolaeth rhestr y Llyfr Coch yn ofalus. Cafodd ei lunio ar ddiwedd y 14eg ganrif ac mae'n adlewyrchu y newidiadau yn nhrefn weinyddol yr ardal a wnaed gan Normaniaid de Cymru.

Canolfannau eglwysig pwysicaf Gwynllŵg yn yr Oesoedd Canol oedd eglwys Gwynllyw a Basaleg, mam-eglwys yr ardal a pherchennog rhan helaeth o'r tir rhwng afon Rhymni ac afon Ebwy.

Mae hanes cynnar Gwynllŵg yn dywyll ond ceir sawl chwedl a thraddodiad amdani. O'r gair Gwynllyw y daw enw'r cantref hwn; roedd ganddi ferch o'r enw Maches a cheir pentref wedi'i enwi ar ei hôl hithau sef Llanfaches. Gweler hefyd Llanfachraeth ym Môn.[1]

Arglwyddiaeth Normanaidd[golygu]

Yn fuan ar ôl y flwyddyn 1090, daeth yn rhan o dir y Normaniad Robert fitz Hamo, fel Arglwydd Morgannwg. Daethpwyd i'w galw yn Strigoil neu "Arglwyddiaeth Cas-gwent". Daeth iseldir y cantref yn ardal drwm dan ddylanwad Normanaidd, ond arosodd yr ucheldir, yn arbennig arglwyddiaeth Machen, yn Gymreig iawn dan arglwyddi Cymreig lleol. O 1347 ymlaen bu'n un o diroedd y teulu Stafford. Pan ddienyddwyd Edward Stafford, Dug Buckingham, yn 1521 meddianwyd Gwynllŵg gan Goron Loegr ac yn 1542 daeth yn rhan o'r Sir Fynwy newydd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Dictionary of the Place-names of Wales gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer, 2008.
  • R. R. Davies, Conquest, coexistence and change, Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1987)
  • J. E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, 3ydd arg., 1937)