Gwyn rhesog

Oddi ar Wicipedia
Cabera pusaria
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Geometridae
Genws: Cabera
Rhywogaeth: C. pusaria
Enw deuenwol
Cabera pusaria
Linnaeus, 10ed rhifyn o Systema Naturae, 1758

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyn rhesog, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwynion rhesog; yr enw Saesneg yw Common White Wave, a'r enw gwyddonol yw Cabera pusaria.[1][2]

Mae i'w ganfod yn y Palearctig a'r Dwyrain Agos. 32–35 mm ydy lled yr adenydd ac mae'r oedolyn yn hedfan rhwng Mai ac Awst; ceir dwy neu dair cenhedlaeth, yn ddibynol ar leoliad. Lliw porffor-frown ydy lliw'r siani flewog ac mae'n bwyta rhannau o goed a pherthi gan gynnwys y wernen, yr aethnen, coed bedw, derwen a helygen. Mae'r wyn resog yn treulio'r gaeaf fel chwiler.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyn rhesog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.