Gwyn godreog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bordered White
Adain uchaf yr oedolyn gwryw
o un o wledydd y de.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Geometridae
Llwyth: Bupalini
Genws: Bupalus
Rhywogaeth: B. piniaria
Enw deuenwol
Bupalus piniaria
(Linnaeus, 10fed rhifyn Systema Naturae, 1758)
Cyfystyron

Bupalus piniarius (lapsus)
Phalaena piniaria Linnaeus, 1758

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyn godreog, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwynion godreog; yr enw Saesneg yw Bordered White, a'r enw gwyddonol yw Bupalus piniaria.[1][2] Mae'n perthyn i deulu'r Geometridae ac oddi fewn i'r teulu hwn mae'n perthyn i lwyth y Bupalini o wyfynod. Mae'n eithaf cyffredin yng ngorllewin Ewrop, y Dwyrain Agos (sef yr hen Ymerodraeth yr Otomaniaid) a gogledd Affrica.[3]

Mae'n hoff iawn o ardaloedd conifferaidd, ac mae'r oedolyn ar ei adain ym Mai a Mehefin, ac mewn rhai llefydd hyd yn oed hyd at Awst. 34–40 mm ydy lled ei adenydd.

Bwyd[golygu]

Lliw gwyrdd sydd i'r siani flewog, gyda llinellau ysgafn arni a'i phrif fwyd ydy gwahanol fathau o binwydd (Pinus) yn enwedig pinwydd yr Alban (P. sylvestris) a phinwydd du Ewrop (P. nigra). Cofnodwyd y siani flewog hefyd ar ddail y Pseudotsuga a'r llarwydden (Larix) a'r sbriws (Picea a Picea abies). Mae'n cysgu dros y gaeaf fel piwpa (neu chwiler). Caiff ei adnabod fel pla mewn fforestydd conifferaidd.[4]

Oriel luniau[golygu]

Isrywogaeth[golygu]

  • Bupalus piniaria bernieri de Lajonquiere, 1958
  • Bupalus piniaria espagnolus Eitschberger & Steiniger, 1975
  • Bupalus piniaria flavescens White, 1876 (sydd fel i'w ganfod yn piniaria)
  • Bupalus piniaria mughusaria Gumppenberg, 1887 (sydd fel i'w ganfod yn piniaria)
  • Bupalus piniaria piniaria (Linnaeus, 1758)

Cyffredinol[golygu]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyn godreog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. Skinner (1984), Chinery (2007): 180, FE (2009)
  4. Skinner (1984), Chinery (2007): 180, and see references in Savela (2001)