Gwyn dau smotyn

Oddi ar Wicipedia
Lomographa bimaculata
Oedolyn yn IJmuiden (yr Iseldiroedd)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Geometridae
Llwyth: Baptini
Genws: Lomographa
Rhywogaeth: L. bimaculata
Enw deuenwol
Lomographa bimaculata
(Fabricius, 1775)
Cyfystyron

See text

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyn dau smotyn, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwynion dau smotyn; yr enw Saesneg yw White-pinion Spotted, a'r enw gwyddonol yw Lomographa bimaculata.[1][2] Mae i'w gael ledled Ewrop ar wahân i'r Balcanau am ryw reswm.

Mae'r oedolyn ar ei adain rhwng Mai a Mehefin yng ngwledydd Prydain a hynny yn ystod y nos, ac mae'n dodwy un cenhedlaeth yn unig. 22–26 mm ydy lled ei adenydd. Prif fwyd y siani flewog ydy teulu'r Prunus gan gynnwys y Draenen ddu.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyn dau smotyn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.