Gwylfa Abertawe

Oddi ar Wicipedia
Gwylfa Abertawe
Matharsyllfa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.614°N 3.937°W Edit this on Wikidata
Map

Lleolir Gwylfa Abertawe (sy'n cael ei adnabod hefyd fel Gwylfa Tyrrau'r Marina a Thŵr yr Ecliptig) ym Marina Abertawe, De Cymru. Ceir yno telesgop optigol seryddol fwyaf Cymru.[1] Cynlluniwyd yr adeilad gan Robin Campbell ym 1989. Ym 1993, rhoddwyd fenthyg yr adeilad i Gymdeithas Seryddol Abertawe sydd bellach yn ei redeg.

Mae yna wydr lliw ar ben y tŵr. O ran cyfleusterau gwylio, mae yna telesgop 20-modfedd Shafer-Maksutov - yr ail fwyaf o'i fath yn y byd, yn ogystal â thelesgop yr haul.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Tŷ Agored Abertawe Civic Trust Wales. 2007. Adalwyd ar 2008-02-22

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]