Gwylan y Penwaig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwylan y Penwaig
Larus argentatus ad.jpg
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Laridae
Genws: Larus
Rhywogaeth: L. argentatus
Enw deuenwol
Larus argentatus
Pontopiddan, 1763

Un o'r gwylanod mwyaf ei maint yw Gwylan y Penwaig (Lladin: Larus argentatus; Saesneg: Herring Gull), sydd weithiau cyhyd a 66cm o ran hyd, a hefyd sy'n un o'r gwylanod mwyaf rheibus ac ysglyfaethus, gan wledda ar bob math o bethau, gan gynnwys cywion gwylanod eraill. Mae ganddi enwau eraill gan gynnwys Gwylan Lwyd, Gwylan Frech a Gwylan Ysgadan. Mae'n byw yng ngogledd a gorllewin Ewrop; ceir rhywogaethau tebyg yn ne Ewrop, Gogledd America ac Asia. Gallant ymdopi a bywyd trefol hefyd, yn enwedig mewn dymps.

[golygu] Sgrech

Mae eu sŵn (neu swn) yn ymdebygu i sgechian chwerthin yn hemisffer y gogledd. Gallant hefyd wneud swn neu gri perygl a thro arall swn isel tebyg i gyfarth ci pan maent mewn argyfwng.

Mae'r cywion yn gwneud swn unigryw sy'n cael ei ailadrodd: swn uchel tebyg i 'pîîp', gan fflicio eu pennau yr un pryd - yn enwedig pan mae nhw'n mofyn bwyd gan eu rhieni. Yn rhyfedd iawn, mae oedolion y gwylanod hefyd yn gwneud hyn pan cânt eu bwydo gan bobl.


Tiger head template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am anifail. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill