Gwyfyn teires leiaf

Oddi ar Wicipedia
Aplocera efformata
Wings of Aplocera efformata
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Geometridae
Genws: Aplocera
Rhywogaeth: A. efformata
Enw deuenwol
Aplocera efformata
(Guenée, 1858)
Cyfystyron
  • Anaitis efformata Guenee, 1858
  • Aplocera britonata Leraut, 1995

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyfyn teires leiaf, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy gwyfynod teires lleiaf; yr enw Saesneg yw Lesser Treble-bar, a'r enw gwyddonol yw Aplocera efformata.[1][2] Mae i'w ganfod yn Ewrop, Morocco ac Anatolia.

Mae'r adenydd yn mesur rhwng 35 a 41 mm a cheir dwy (neu weithiau dair) cenhedlaeth a welir yn hedfan rhwng Ebrill a chanol Tachwedd.

Bwyd[golygu | golygu cod]

Prif fwyd y siani flewog ydy Hypericum perforatum ac mae'n parhau ar ffurf siani flewog rhwng Mehefin ac Awst a rhwng Medi a Mai, gan mai ar y ffurf hwn mae'n trulio'r gaeaf - yn y pridd.

Isrywogaethau[golygu | golygu cod]

  • Aplocera efformata efformata
  • Aplocera efformata britonata Leraut, 1995

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyfyn teires leiaf yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur.