Gwyfyn gwythïen goch
| Timandra comae | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Lepidoptera |
| Teulu: | Geometridae |
| Genws: | Timandra |
| Rhywogaeth: | T. comae |
| Enw deuenwol | |
| Timandra comae (Schmidt, 1931) |
|
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyfyn gwythïen goch, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyfynod gwythien goch (-ion); yr enw Saesneg yw Blood-vein, a'r enw gwyddonol yw Timandra comae.[1]
Ceir clystyrau ohonyn nhw yma ac acw drwy orllewin a chanol Ewrop. Yng ngwledydd Prydain, caiff ei weld mewn rhannau o Gymru a Lloegr.
Mae'r adenydd rhwng 30–35 mm a cheir dau swp o wyau pob blwyddyn gyda'r oedolion ar adenydd ym Mai a Mehefin ac eto rhwng Awst a Medi. Yn y nos y maen nhw'n hedfan ac mae'n nhw'n cael eu denu gan oleuni.
Cyffredinol [golygu]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyfyn gwythïen goch yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.