Gwyfyn gludlys y codau

Oddi ar Wicipedia
Hadena perplexa
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Hadena
Rhywogaeth: H. perplexa
Enw deuenwol
Hadena perplexa
(Denis & Schiffermüller, 1775)
Cyfystyron
  • Anepia perplexa
  • Noctua perplexa Denis & Schiffermüller, 1775
  • Phalaena (Noctua) lepida Esper, 1790
  • Phalaena (Noctua) carpophaga Brahm, 1791
  • Phalaena (Noctua) carpophaga Borkhausen, 1792
  • Noctua ochracea Haworth, 1809
  • Dianthoecia capsophila Duponchel, 1842
  • Miselia nisus Germar, 1842
  • Opigena repanda Herrich-Schäffer, 1850
  • Miselia atlas Prout, 1928
  • Dianthoecia capsophila f. sicula Draudt, 1933

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyfyn gludlys y codau, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyfynod gludlys y codau; yr enw Saesneg yw Pod Lover, a'r enw gwyddonol yw Hadena perplexa.[1][2] Gellir ei ganfod yn y gwledydd canlynol: Moroco, Algeria, Tiwnisia, Ewrop, Twrci, Israel, Libanus, Syria, Iorddonen, Iran, Irac, gogledd a chanol Asia, gogledd India a gorllewin Tsieina.

27–36 mm ydy lled yr adenydd a gellir canfod y gwyfyn hwn ar ei adain rhwng Chwefror a Mai yn Israel a rhwng Ebrill a Medi yn Ewrop, yn ddibynol ar hinsawdd a lleoliad.

Bwyd[golygu | golygu cod]

Mae'r siani flewog yn bwyta dail a blodau Dianthus, Lychnis a Silene ac ar adegau Melandrium viscosum, Melandrium rubrum a Viscaria vulgaris.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyfyn gludlys y codau yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.