Gwybedog Mannog
Oddi ar Wicipedia
| Gwybedog Mannog | |
|---|---|
| Gwybedog Mannog | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Muscicapidae |
| Genws: | Muscicapa |
| Rhywogaeth: | M. striata |
| Enw deuenwol | |
| Muscicapa striata (Pallas, 1764) |
|
Aderyn sy'n aelod o deulu'r Gwybedogion yw'r Gwybedog Mannog (Muscicapa striata). Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar draws y rhan fwyaf o Ewrop a gorllewin Asia.
Mae'r Gwybedog Brith yn aderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica i'r de o anialwch y Sahara ac yn ne-ddwyrain Asia. Aderyn brown ydyw, gyda'r bol yn wyn, heb unrhyw nodwedd darawiadol. Maent yn nythu mewn coedwigoedd llydanddail, parciau a gerddi.
Er ei fod yn parhau i fod yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru, mae ei niferoedd wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.