Gwybedog Brith
| Gwybedog Brith | |
|---|---|
| Ceiliog Gwybedog Brith | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Muscicapidae |
| Genws: | Ficedula |
| Rhywogaeth: | F. hypoleuca |
| Enw deuenwol | |
| Ficedula hypoleuca (Pallas, 1764) |
|
Aderyn sy'n aelod o deulu'r Gwybedogion yw'r Gwybedog Brith (Ficedula hypoleuca). Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar draws y rhan fwyaf i Ewrop a gorllewin Asia.
Mae'r Gwybedog Brith yn aderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica i'r de o anialwch y Sahara. Ceir pedwar rhywogaeth o Wybedogion Ficedula yn y rhan yma o'r byd, ac mewn rhai gwledydd gall fod angen gofal i wahaniaethu rhyngddynt. Mae'r aderyn yn 12-13 cm. o hyd, ac mae'r ceiliog yn aderyn du a gwyn tarawiadol; du ar y cefn, gwyn ar y bol a chyda darn gwyn amlwg ar yr adenydd, tra bod gan yr iâr frown golau yn lle du ar y cefn.
Adeiledir y nyth mewn coedydd, ac mae'n arbennig o hoff o goedydd derw, a choedydd lle nad oes llawer o dyfiant islaw'r coed. Adeiledir y nyth mewn tyllau yn y coed neu mewn blychau nythu lle darperir y rhain.
Ystyrir y Gwybedog Brith yn un o adar nodweddiadol Cymru, yn enwedig yn y coedydd derw sy'n tyfu ar y llethrau.