Gwyach Gorniog
Oddi ar Wicipedia
| Gwyach Gorniog | ||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
| Enw deuenwol | ||||||||||||||
| Podiceps auritus (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Wyach Gorniog, Podiceps auritus, yn aelod o deulu'r Podicipedidae, y gwyachod.
Mae tipyn yn llai na'r Wyach Fawr Gopog, tua 31–38 cm (12–15 modfedd) o hyd, a 46–55 cm ar draws yr adenydd. Yn yr haf, mae'n aderyn hawdd ei adnabod, gyda phen du a gwddf coch. Daw'r enw o'r cudynnau o blu hir ar y pen, sy'n edrych fel cyrn. Yn y gaeaf, collir y rhain, ac mae'r aderyn yn ddu a gwyn.
Mae'n nythu ar lynnoedd dŵr croyw ar draws Ewrob ac Asia, a hefyd rhannau o'r Unol Daleithiau a Canada. Fel rheol, mae'n symud ymhellach i'r de yn y gaeaf. Pysgod yw ei bwyd arferol.
Nid yw'r Wyach Gorniog yn nythu yng Nghymru fel rheol, ond ceir niferoedd bychain o gwmpas yr arfordir yn ystod y gaeaf, er enghraifft o gwmpas Traeth Lafan.