Gwrthryfel y Batafiaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Batafiaid yn tyngu llŵ i Civilis; llun gan Rembrandt.

Gwrthryfel yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig gan y Batafiaid, a drigai yn yr ardal sy'n awr yn dde yr Iseldiroedd oedd Gwrthryfel y Batafiad. Dechreuodd yn 69 OC. Ceir yr hanes gan yr hanesydd Rhufeinig Tacitus.

Roedd y berthyns rhwng y Batafiaid a'r Rhufeiniaid wedi bod yn dda ar y cyfan, gyda llawer o'r Batafiaid yn gwasanaethu yn y fyddin Rufeinig. Esgusodwyd hwy rhag talu trethi, ar yr amod fod nifer sylweddol yn gwasanaethu yn y fyddin. Fodd bynnag, daeth rhai o'r Batafiaid i deimlo fod y gofynion hyn yn ormod. Gwrthryfelodd y Batafiaid dan Gaius Julius Civilis yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69 OC). Roedd Civilis ei hun yn ddinesydd Rhufeinig, ac wedi gwasanaethu yn y fyddin Rufeinig.

Dinistriwyd llengoedd V Alaudae a XV Primigenia gan y gwrthryfelwyr. Ymunodd rhai milwyr Rhufeinig yn y gwrthryfel, megis lleng I Germanica. Roedd y llengoedd hyn wedi cefnogi Vitellius fel ymerawdwr, ac yn anfodlon pan glywsant fod Vespasian wedi ennill yr orsedd. Gyrrodd Vespasian fyddin dan Quintus Petillius Cerialis i roi terfyn ar y gwrthryfel yn Ebrill 70. Trechwyd y Batafiaid a dechreuodd Petilius Cerialis drafodaethau gyda Julius Civilis, rhywle rhwng afon Waal ac afon Maas ger Noviomagus (Nijmegen heddiw).

Mae hanes Tacitus yn gorffen yma, felly nid oes gwybodaeth beth a ddigwyddodd i Civils na beth oedd yr union delerau a roddwyd i'r Batafiaid. Cafodd llengoedd I Germanica a IV Macedonica eu dirwyn i ben gan Vespasian fel cosb.