Gwrthfater

Oddi ar Wicipedia
Gwrthfater
Mathmater Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebmater cyffredin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn ffiseg cnewyllol, mae gwrthfater yn ddefnydd wedi'i wneud o wrthgnewyllynau sydd a'r un mas â mater cyffredin, ond fod ganddynt wefr gwahanol a nodweddion gronynnau megis rhifau lepton a baryon. Ceir gwrth-hydrogen a gwrthheliwm. Mae cymysgu mater a gwrthfater yn difa'r ddau ond yn creu ynni enfawr a photonau. Nid yw gwyddoniaeth yn deall pam fod cymaint o fater a chyn lleied o wrthfater yn y bydysawd.

Yn 1995 cyhoeddodd CERN eu bod wedi creu naw atom o wrth-hydrogen o fewn arbrawf PS210. Yn 2002 cyhoeddodd yr arbrawf ATHENA, oedd wedi'i leoli o fewn CERN, eu bod wedi creu gwrth-hydrogen 'oer'.[1] Cymerodd 8 mlynedd pellach cyn i'r arbrawf ALPHA (sydd wedi'i ffurffio gan rai o aelodau'r cyn-arbrawf ATHENA) lwyddo i ddal atomau gwrth-hydrogen mewn trap niwtral magnetig.[2]. Yn 2012 goleuodd ALPHA atomau o gwrth-hydrogen gyda ymbelydredd microdonol gan cynhyrfu trosiad cwantwm (newidiad sbin) mewn gwrth-hydrogen am y tro cyntaf[3][4].

Defnyddiau[golygu | golygu cod]

Yn ymarferol defyddir gwrthfater o fath positronnau (gwrth-electronnau) i greu delweddau yn y byd meddygol mewn techneg a enwir yn PET (Positron emission tomography).

Defnydd posibl arall yn y dyfodol pell yw creu tanwydd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]