Gwrthdwyieithrwydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwrth-dwyieithrwydd yw'r gair a ddefnyddir am weithrediadau neu bolisïau sy'n gwrthwynebu dwyieithrwydd ac yn ceisio atal y defnydd o ieithoedd heblaw'r iaith swyddogol neu'r iaith fwyafrifol.

Mae hyn yn digwydd yng Nghanada, yn erbyn y Ffrangeg, ac yn yr Unol Daleithiau yn erbyn y Sbaeneg.

Mae polisi Ffrainc yn erbyn dwyieithrwydd hefyd, fel yn Llydaw er enghraifft.

Roedd nifer o bolisïau yn erbyn dwyieithrwydd yng Nghymru, megis y Welsh Not.[1] Yn fwy diweddar, cafwyd nifer o achosion lle ceisiodd cyflogwyr atal eu staff rhag siarad Cymraeg yn y gweithle, o Helynt Brewer Spinks ym 1965 hyd at Thomas Cook yn gwahardd y defnydd o'r Gymraeg gan eu gweithwyr yn 2007.[2]

Ffynonellau [golygu]