Gwobr Turner

Oddi ar Wicipedia
Gwobr Turner
Enghraifft o'r canlynolart prize Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1984 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1984 Edit this on Wikidata
Enw brodorolTurner Prize Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.tate.org.uk/turner-prize/about Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tate Britain: lleoliad cyflwyno Gwobr Turner

Gwobr a enwir ar ôl y peintiwr J. M. W. Turner yw Gwobr Turner, caiff ei wobrwyo yn flynyddol i arlunydd gweledol Prydeinig sydd o dan 50 oed. Trefnir y gwobrwyo gan amgueddfa'r Tate a chaiff ei gynnal yn Tate Britain. Ers ei sefydliad ym 1984, mae wedi dod yn un o wobrau celf a gaiff ei hysbysebu fwyaf ym Mhrydain. Er ei fod yn cynrychioli pob cyfrwng, ac mae peintwyr wedi ennill y wobr yn y gorffennol, caiff ei chysylltu'n gyffredinol â chelf cysyniadol.

Rhoddwyd gwobrau ariannol o tua £40,000 ers 2004, gyda £25,000 o hynny ar gyfer yr enillydd, ond bu amrywiaeth gyda newid y noddwyr dros y blynyddoedd, a fu'n cynnwys Channel 4 a Gordon's Gin.[1] Cyflwynir y wobr gan rywun enwog o nod, Yoko Ono gyflwynodd y wobr yn 2006.

Caiff rhestr fer o enwebiadau ei chyhoeddi tua chwe mis cyn cyflwyniad y wobr ym mis Tachwedd neu Ragfyr pob blwyddyn, ond ni wnaethpwyd y rhestrau byrion yn gyhoeddus ym 1988 na 1990; ac ym 1989, cyhoeddwyd hefyd rhestr o saith arlunydd â "chymeradwyaeth".[1] Bu ymryson ynglŷn â'r wobr gyntaf a roddwyd i Malcolm Morley, gan fod rhai barnwyr yn "cwestiynu ei berthnasedd" â chelf ym Mhrydain gen y bu'n byw a gweithio yn yr Unol Daleithiau am ugain mlynedd pan dderbyniodd y wobr.[2]

Mae'r wobr yn un ddadleuol, yn bennaf oherwydd y gelf sy'n cael ei harddangos,[3] megis siarc mewn formaldehyde gan Damien Hirst, a gwely anniben gan Tracey Emin. Mae ymryson hefyd wedi bod am resymau eraill, megis gweinidog diwylliant (Kim Howells) yn barnu'r gelf yn hallt gan ei disgrifio fel "malu cachu cysyniadol" gan dderbyn cefnogaeth y Tywysog Siarl a ddywedodd fod y "wobr wedi llygru sefydliad y celfeddydau ers cryn amser",[4] a gwestai anrhydeddus (Madonna) yn rhegi, un o'r dyfarnwyr (Lynn Barber) yn ysgrifennu yn y wasg, ac araith gan Syr Nicholas Serota (ynglŷn â phrynu gwaith ymddiriedolwr).

Mae'r sioe hefyd wedi denu nifer o wrthdystiadau, y mwyaf nodweddiadol gan y K Foundation ac ers 2000 y Stuckists,[5] yn 2008, dosbarthont daflenni gyda'r neges "The Turner Prize is Crap", er mwyn protestio yn erbyn y diffyg o baentiadau ffigurol ymysg celf yr enwebedigion.[6] Mae hefyd wedi ysbrydoli gwobrau amgen gan eraill i haeru gwerthoedd celfyddydol gwahanol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  About the Turner Prize. Tate Britain.
  2.  Exhibition Guide 84. Tate Britain.
  3.  Head to Head: Turner Prize – is it art?. BBC (2 Rhagfyr 1999).
  4.  Ben Leach (13 Tachwedd 2008). Prince Charles in his own words. The Daily Telegraph.
  5.  Index of Stuckist demos. Stuckist.
  6.  Arifa Akbar (30 Medi 2008). A mannequin on a toilet and dry porridge – it's the Turner Prize. The Independent.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]