Gwlyptiroedd Casnewydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwlyptiroedd Casnewydd
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Reen and viewing platform, Newport Wetlands.jpg

Gwlyptiroedd Casnewydd
Gwlyptiroedd Casnewydd is located in Cymru
O fewn Cymru
Ardal ymchwil Cymru
Cyfesurynnau OS ST3454282960
Cyfesurynnau daearyddol 51°32′30″N 2°56′43″W / 51.541725°N 2.9452634°W / 51.541725; -2.9452634Coordinates: 51°32′30″N 2°56′43″W / 51.541725°N 2.9452634°W / 51.541725; -2.9452634
Diddordeb Bywyd gwyllt
Arwynebedd 374.17 ha
Cofrestrwyd 26 Mawrth 2010
ID 3123
Côd 33WUH

Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn ne-ddwyrain Cymru yw Gwlyptiroedd Casnewydd (Saesneg: Newport Wetlands). Saif ar lan aber Afon Hafren, i'r de-ddwyrain o ganol dinas Casnewydd, rhwng Aberwysg, Trefonnen ac Allteuryn. Fe'i rheolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth a'r RSPB a Chyngor Dinas Casnewydd. Mae wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 26 Mawrth 2010 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 374.17 hectar.

Disgrifiad[golygu]

Sefydlwyd y warchodfa, sy'n 1,079 acer (437 hectar) o arwynebedd, yn 2000, gyda'r bwriad o ddarparu cynefin i wrthweithio colli Bae Caerdydd, oedd yn cael ei droi'n llyn dŵr croyw gydag adeiladu Morglawdd Bae Caerdydd. Agorodd yr RSPB Ganolfan Addysg Amgylcheddol ac Ymwelwyr ym mis Mawrth 2008, ac fe ddynodwyd Gwlyptiroedd Casnewydd yn Warchodfa Natur Genedlaethol ar 16 Ebrill 2008.

Sefydlwyd y warchodfa ar gyfer adar yn bennaf. Erbyn hyn, mae nifer o rywogaethau sy'n eithaf prin yng Nghymru wedi eu cofnodi yno, megis y Cambig, Telor Cetti, y Rhegen Ddŵr a’r Titw Barfog. Ymysg rhywogaethau sy'n magu yno mae'r Gornchwiglen, Pioden y Môr, Cwtiad Torchog, Cwtiad Torchog Bach a'r Pibydd Coesgoch.

Cyfeiriadau[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Dolen allanol[golygu]