Gwlff Tiwnis

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gwlff Tunis)
Neidio i: llywio, chwilio
Delwedd lloeren NASA o Gwlff Tiwnis

Bae mawr agored yn ne'r Môr Canoldir ar arfordir gogleddol Tiwnisia yw Gwlff Tiwnis. Mae'n ymestyn o Benrhyn Carthage (Cap Carthage: hefyd Cap Farina) yn y gorllewin i bwynt gogleddol Cap Bon yn y dwyrain, pellter o tua 75 km. Ers dyddiau'r Ffeniciaid a'r Rhufeiniaid mae wedi bod yn gysgodfa pwysig i longau. Mae'n gorwedd gyferbyn i ynys Sisili a Sardinia ac felly o bwys strategol er mwyn rheoli'r llwybr morol rhwng y Môr Canoldir gorllewinol a'r rhan ddwyreiniol, trwy Gulfor Sisili.

Yma, yn ôl traddodiad, y glaniodd y frenhines Elissa (Dido yn Eneid Fferyllt) a'i llynges o ffoaduriaid o Tyros (Tyre - mam-ddinas y Carthageniaid yn Ffenicia) tua 700 CC a sefydlu dinas Carthage. Mae'r gwlff wedi bod yn dyst i sawl frwydr fawr ac wedi chwarae rhan bwysig yn hanes yr Henfyd.

Ar ei glannau gorllewinol ceir nifer o drefi, gan gynnwys (o'r gogledd i'r de) Sidi Bou Saïd ar Benrhyn Carthage, Carthage ei hun, La Goulette ar y fynedfa i Llyn Tiwnis a dinas Tiwnis ei hun, Rades, ez-Zahra a Hammam Lif. Ceir nifer o draethau da sy'n denu trigolion Tiwnis yn yr haf. Mewn cyferbyniaeth mae'r glannau dwyreiniol yn llawer mwy anghysbell gyda nifer o glogwynni a bryniau isel. Ar ôl Hammam Lif yr unig dref o bwys yw Korbous (tref spa) a Sidi Daoud (porthladd bysgota).

Oddi ar benrhyn gogleddol Cap Bon ceir dwy ynys ddeniadol, Zembra a Zembretta, sy'n warchodfeydd natur. Yn dominyddu'r gwlff yn y gorllewin y mae mynydd triphyg trawiadol Bou Kornine.

Oriel[golygu]

Gweler hefyd[golygu]