Gwlff Gabès
Oddi ar Wicipedia
Gwlff Gabès (delwedd loeren NASA).
Bae agored o'r Môr Canoldir yw Gwlff Gabès (Arabeg: خليج قابس), sy'n gorwedd oddi ar arfordir de canolbarth Tunisia yng Ngogledd Affrica. Yr enw arno yng nghyfnod yr Henfyd oedd Minor Syrtis (Lladin).
Fe'i enwir ar ôl dinas hynafol Gabès, a leolir ger yr arfordir yn nhalaith Gabès, tua 400 km i'r de o Tunis, prifddinas Tunisia.
Gorwedd Ynysoedd Kerkennah a dinas Sfax ym mhen gogleddol y gwlff ac mae ynys Djerba yn dynodi ei ben deheuol. Ei lled yw tua 200 km.
Yn ogystal â Gabès a Sfax, mae'r trefi ar neu ger arfordir Gwlff Gabès yn cynnwys Mahrès, Skhira a Jorf.