Gwisg ysgol Japan

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gwisg Ysgol Japan)
Neidio i: llywio, chwilio
Plant mewn gwisg ysgol yn Japan
Gwisg morwr gaeafol gyda llewys hirion ar fodel.

Mae gwisg ysgol Japan wedi'i seilio ar iwnifform llongwyr yr Unol Daleithiau ers diwedd y 19fed ganrif. Mae'r rhan fwyaf o blant ysgol yn Japan (a bellach llawer o wledydd eraill drwy'r byd) yn gwisgo'r math hwn ac mae'r gwisgoedd yn cael eu galw'n seifuku (制服?).

Pan mae disgyblion yn mynd i mewn i ddosbarth, mae'n rhaid iddyn nhw dynnu eu hesgidiau a gwisg uwabaki, math o slipars meddal.

Gakuran[golygu]

Gwisg Ysgol Ichikawa Gakuen (canol).

Gwisgir y gakuran (学ラン?) neu'r tsume-eri (詰襟?) gan ddisgyblion llawer o ysgolion yn Japan. Fel arfer mae nhw o liwiau tywyll.

Gwisg Llongwr[golygu]

Mae'r math llongwr (セーラー服?) yn wisg ysgol cyffredin iawn yn Japan. Cafodd ei gyflwyno yn 1920 yn Heian Jogakuin (平安女学院?)[1] ac yn 1921 ym Mhrifysgol Fukuoka Jo Gakuin (福岡女学院?),[2].

Dolenau allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu]