Gwilym Prys-Davies

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gwilym Prys Davies)
Gwilym Prys-Davies
Ganwyd8 Rhagfyr 1923 Edit this on Wikidata
Llanegryn Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mawrth 2017 Edit this on Wikidata
Man preswylPontypridd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
PriodLlinos Evans Edit this on Wikidata

Sosialydd Cymreig oedd yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies (8 Rhagfyr 192328 Mawrth 2017). Bu'n ymgeisydd y Blaid Lafur yn Is-etholiad Caerfyrddin, 1966, ond nid oedd yn llwyddiannus.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Gwilym Prys-Davies yn Llanegryn, Meirionnydd. Gwasanaethodd yn y llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi hynny astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth ac aeth i weithio fel cyfreithiwr ym Mhontypridd yn 1956.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ar 9 Chwefror 1983 a gwasanaethodd fel Arglwydd hyd nes iddo ymddeol fel Arglwydd ar 23 Mai 2015.

Bu'n llefaru ar faterion iechyd a Gogledd Iwerddon ar ran yr wrthblaid yn Nhy'r Arglwyddi yn ystod yr 1980au a 1990au. Gwasanaethodd fel llefarydd yr Wrthblaid yn Nhy'r Arglwyddi ar faterion Cymreig rhwng 1987 a 1997.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Cyfarfu ei wraig Llinos yn y brifysgol a bu'r ddau yn briod am dros 50 mlynedd hyd ei marwolaeth yn 2010. Bu farw ar 23 Mawrth 2017 yn 93 blwydd oed.[1]

Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies[golygu | golygu cod]

Gan ddechrau yn 2018 cynigiwyd Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies i fyfyriwr/aig o'r hen sir Feirionnydd neu bwrdeisdref sirol Rhondda, Cynon, Tâf sy'n astudio'r Gyfraith gyda elfen o'r Gymraeg yn un o brifysgolion Cymru.[2][3] Gweindyddir yr Ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Enillydd yr Ysgoloriaeth yn 2022 oedd Elin Pennant Jones o Rhydymain ger Dolgellau a aeth i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.[4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies wedi marw yn 93 oed , BBC Cymru Fyw, 29 Mawrth 2017.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-11. Cyrchwyd 2018-11-16.
  3. "Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies". Sianel Youtube Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 19 Awst 2019.
  4. "ERIN PENNANT JONES O DDOLGELLAU YN ENNILL YSGOLORIAETH GWILYM PRYS DAVIES Y COLEG CYMRAEG GWERTH £3,000". Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 20 Medi 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-20. Cyrchwyd 2022-10-20.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]