Gwibdaith Hen Frân
| Gwibdaith Hen Frân | |
|---|---|
| Gwibdaith Hen Frân yn perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011. | |
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Tarddiad | |
| Cerddoriaeth | Acwstig / Gwerin / Gwerin Amgen |
| Blynyddoedd | 2006-Presennol |
| Label(i) recordio | Rasal |
| Cysylltiedig | Twmffat Mim Twm Llai Estella Y Mistêcs Jac Gai Toms Vates. |
| Dylanwadau | Old Crow Medicine Show Mim Twm Llai |
| Gwefan | Myspace Gwibdaith Hen Frân |
| Aelodau | |
| Philip Lee Jones - Llais, Iwcalili Gethin Thomas - Llais, Gitâr Acwstig |
|
| Cyn aelodau | |
| Paul Thomas - Llais, Gitâr Acwstig |
|
Mae Gwibdaith Hen Frân yn fand acwstig gwerin amgen o ardal Blaenau Ffestiniog.
Cynnwys |
Cefndir [golygu]
Ffurfiodd y band yn 2006, gan esblygu o chwarae yn nhafarndai Bro Ffestiniog i wyliau cerddorol megis Gŵyl Car Gwyllt, Tân y Ddraig, Maes B, a Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2007. Daeth yr ysbrydoliaeth i enw'r band drwy ddylanwad y band Old Crow Medicine Show ac er cof am Jac y Frân, anifail anwes Phil, un o'r aelodau.
Rhyddhawyd eu halbwm gyntaf, Cedors Hen Wrach yn 2007 ar label Rasal. Lansiwyd eu hail albwm, Tafod Dy Wraig yn Haf 2008 a dilynodd eu trydydd albwm, Llechan Wlyb ym mis Mai 2010.
Dau o'r aelodau yn gadael [golygu]
Ym mis Tachwedd 2010, cyhoeddodd dau o aelodau Gwibdaith Hen Frân - Paul Thomas a Robert Ifan Buckley - eu bod yn bwriadu gadael y band. Fodd bynnag, cyhoeddodd Philip Lee Jones y buasai Gwibdaith Hen Frân yn parhau i berfformio hyd yn oed pe bai'r ddau yn gadael.[1]
Tri aelod newydd [golygu]
Ym mis Rhagfyr 2010, ymunodd 3 aelod newydd â'r band, sef Justin Allen Davies (Mandolin / Harmonica), Gary Richardson (Gitâr Fas), ac Ieuan Williamson (Banjo). Mae'r band wrthi'n gweithio ar eu halbwm nesaf ac yn parhau i berfformio gigs ledled Cymru.
Aelodau [golygu]
- Philip Lee Jones - Llais, Iwcalili. Hefyd yn aelod o fand Twmffat, a chyn-aelod o fandiau Mim Twm Llai, Estella, Vates, Jac ac Y Mistêcs.
- Gethin Thomas - Llais, Gitâr Acwstig.
- Justin Davies - Mandolin, Harmonica. Hefyd yn aelod o Twmffat a chyn-aelod o Anweledig.
- Gary Richardson - Gitâr Fas. Hefyd yn aelod o fand Gai Tom a chyn-aelod o Mim Twm Llai.
- Ieuan Williamson - Banjo
Cyn-aelodau [golygu]
- Paul Thomas - Llais, Gitâr Acwstig.
- Robert Buckley - Bâs Dwbl
Discograffiaeth [golygu]
- Cedors Hen Wrach (2007, Rasal)
- Cân am Sana' (2007, Sain)
- Tafod Dy Wraig (2008, Sain)
- Llechan Wlyb (2010, Sain)