Gwgon Gleddyfrudd

Oddi ar Wicipedia

Roedd Gwgon Gleddyfrudd yn arwr traddodiadol Cymreig a gysylltir â hen deyrnas Ceredigion. Mae'n bosibl mai enw arall ar y brenin Gwgon ap Meurig (m. 871), brenin olaf Ceredigion ydyw, ond nid oes sicrwydd am hynny. Ond yn ôl un o'r achau Cymreig roedd yn un o feibion Einion Yrth ap Cunedda.[1]

Traddodiadau[golygu | golygu cod]

Sonnir am fedd Gwgon Gleddyfrudd yn Englynion y Beddau (Llyfr Du Caerfyrddin) ond heb ddweud mwy na hynny.[2]

Cyfeirir ato yn Nhrioedd Ynys Prydain fel un o dri arwyr, a oedd yn ddeiliad i Bowys, a gymerodd ran ym Mrwydr Caer tua'r flwyddyn 615 (ceir y triawd yn yr erthygl honno) ynghyd â Madog ap Rhun (o Bowys).[1]

Mae Dafydd ap Gwilym yn cyfeirio at Wlad Gwgan Gleddyfrudd:

Gwlad Wgan, fawr union faich,
Gleddyfrudd, gloyw ei ddeufraich.[1]

Ceir cyfeiriad at Gastell Gwgon mewn dogfennau Seisnig o'r Oesoedd Canol diweddar ond mae ei leoliad yn ansicr; efallai rhwng Llanbadarn Fawr a Llanfihangel Genau'r Glyn neu yng nghyffiniau Aberaeron.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1976).
  2. A.O.H. Jarman (gol.). Llyfr Du Caerfyrddin (Gwasg Prifysgol Cymru).