Gwesty’r Angel, Trefynwy

Oddi ar Wicipedia
Gwesty’r Angel, Trefynwy
Mathtafarn, siop Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1700 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr24.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.812722°N 2.714186°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Gwesty'r Angel, bellach, yn siop ddodrefn sydd wedi'i lleoli yn Nhrefynwy, Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru. Fe'i benodwyd yn adeilad rhestredig Gradd II.[1] Roedd yn westy rhwng 1700 a 1985: y cyfnod hiraf i unrhyw adeilad weithredu fel gwesty, yn ddi-dor.[2] Mae dau lawr iddo.[2] Drwy'r 19g fe'i defnyddiwyd fel pencadlys Glwb Teithio Beics Cangen Trefynwy.[2]

Mae'n un o 24 o adeiladau hanesyddol sydd ar Lwybr Treftadaeth Trefynwy.[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Siop dyn o'r enw Robert le Ffrere oedd y siop yn gyntaf ac roedd yn ei rentu am un bunt yn 1240 a dalwyd yn flynyddol. deugain mlynedd yn ddiweddarach prynwyd y tir gan Edmwnd o Gaerhirfryn, (Edmund Crouchback, brawd Edward I). Gwyddom ei fod yn talu hanner mark yn flynyddol i dalu am fflam wedi'i chynnau ar allor eglwys y plwyf. Dywedir fod y fflam yn dal i losgi dau gant o flynyddoedd yn ddiweddarach. Erbyn 1613 roedd y siop yn cael ei defnyddio i fragu cwrw ar gyfer Eglwys Prior y Santes Fair. Erbyn 1700 roedd yn westy a'i enw bellach yn Westy'r Angel: hyd at 1965.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (cyn Westy'r Angel), Trefynwy, British Listed Buildings, adalwyd 20 Ionawr 2012
  2. 2.0 2.1 2.2 Edwards of Monmouth, yr hen westy Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback.. Royal Commission on Ancient and Historic Monuments of Wales, adalwyd Ebrill 2012
  3. 3.0 3.1 Monmouth Civic Society, Monmouth Heritage Blue Plaque Trail, n.d., tud.19