Gwerthefyr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwerthefyr neu Gwerthefyr Fendigaid (Lladin: Vortimer) (fl. 5ed ganrif) oedd fab Gwrtheyrn brenin y Brythoniaid yn hanes traddodiadol Cymru. Dywedir ei fod yn rhyfelwr cadarn a enillodd sawl brwydr yn erbyn y Sacsoniaid oedd yn ceisio meddianu Ynys Prydain.[1]

Hanes a thraddodiad[golygu]

Cyfeirir at Werthefyr gan Nennius yn yr Historia Brittonum. Ar ôl blynyddoedd o ryfela yn erbyn y goresgynwyr gorchmynodd i'w deulu i'w gladdu ar arfordir de Lloegr i amddiffyn y wlad, ond anwybyddwyd hynny gyda chanlyniadau trychinebus. Ceir yr un hanes, i bob pwrpas, yng ngwaith Sieffre o Fynwy, ond gyda'r gwahaniaeth fod ei lysfam yn ei wenwynu. Mae un o Drioedd Ynys Prydain yn gwrthddweud Nennius a Sieffre, fodd bynnag, ac yn dweud bod esgyrn y brenin marw wedi'u claddu ym mhrif borthladdoedd yr ynys a bod hynny wedi atal ymosodiadau'r Sacsoniaid am gyfnod.[2]

Mae'n eithaf posibl fod yr hanes traddodiadol yn seiliedig ar ffigwr hanesyddol a deyrnasodd yn Nyfed. Cyfeiria Gildas at un Vortiporius fel Demetarum tyranne Vortipori (Vortipori brenin Dyfed). Fe'i coffeir mewn arysgrif gynnar mewn Lladin ac Ogam o Warmacwydd, Sir Benfro, a ddaeth yno o Gastell Dwyran ger Hendy-gwyn ar Daf. Yn Lladin ceir yr arysgrif Memoria Voteporigis Protictoris ac yn Ogam Votecorigas. Mae'n bosibl mai'r cof am y brenin hwn a geir yn sail i'r traddodiadau am Werthefyr a Vortiporius fel ei gilydd ('Gw(e)rthefyr' yw'r ffurf a geir ar enw'r ddau frenin yn y cyfieithiadau Cymraeg Canol o waith Sieffre o Fynwy).[3]

Yn ôl traddodiad arall roedd Gwerthefyr, trwy ei ferch Anna, yn daid i Non, mam Dewi Sant.[4]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Henry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942). Tud. 276.
  2. Henry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942). Tud. 276.
  3. Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Boydell Press, 1997).
  4. Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Boydell Press, 1997).