Gwerth ychwanegol crynswth
Oddi ar Wicipedia
Term economaidd yw gwerth ychwanegol crynswth neu GYC sy'n golygu gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir mewn ardal neu sector o economi.[1]
[golygu] Perthynas i gynnyrch mewnwladol crynswth
Fel mesuriad fe gysylltir GYC â chynnyrch mewnwladol crynswth (CMC), gan fod y ddau yn fesuriadau allbwn. Diffinir y berthynas fel y ganlyn:
- GYC + trethi ar gynhyrchion - cymorthdaliadau ar gynhyrchion = CMC
Gan mai cyfanswm cyfanred trethi ar gynhyrchion a chymorthdaliadau ar gynhyrchion ddim ond ar gael ar lefel holl-economi,[2] defnyddir GYC i fesur cynnyrch mewnwladol rhanbarthol crynswth a mesuriadau eraill o allbwn endidau sy'n llai na holl economi.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Gross Value Added (GVA) Briefing Paper. Cyngor Sir Gaint (29 Hydref, 2007). Adalwyd ar 3 Medi, 2008.
- ↑ (Saesneg) Guide to Gross Value Added (GVA). Swyddfa Ystadegau Gwladol (15 Tachwedd, 2002). Adalwyd ar 3 Medi, 2008.

