Gwenynen Fêl
| Gwenynen Fêl | |
|---|---|
| Gwenynen ar flodyn afal | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Hymenoptera |
| Is-urdd: | Apocrita |
| Teulu: | Apidae |
| Is-deulu: | Apinae |
| Genws: | Apis Linnaeus, 1758 |
| Rhywogaethau | |
|
A. andrenifloris |
|
Pryf sydd yn cynhyrchu mêl yw'r wenynen fêl. Mae dyn yn cadw gwenyn ers o leiaf 4 mil o flynyddoedd ers i'r Eifftiaid eu cadw. Mae gwenyn mêl yn casglu neithdar a'i storio mewn lloches tebyg i nyth - fel ffynhonnell bwyd, yn arbennig yn y gaeaf. Er hwylustod i gasglu'r mêl mae dyn yn rhoi cwch gwenyn iddynt ymgartrefu ynddo. Gwenynwr yw rhywun sydd yn cadw a gofalu am y gwenyn mêl a'r cychod.
Cynnwys |
Bywyd [golygu]
Mewn trefedigaeth gwenyn mae un mamwenynen, sef brenhines y drefedigaeth sydd yn dodwy wyau a channoedd o wenyn gormes, sef gwenyn gwrywol, ond mae llawer mwy o weithwyr. Fel arfer, mae rhwng 40,000 ac 80,000 o wenyn yn byw mewn cwch gwenyn yn ystod yr haf, ond llawer llai yn ystod y gaeaf. Mae gwenyn yn cydweithio wrth hel mêl a chredir eu bod yn defnyddio "dawns" i nodi lleoliad blodau llawn neithdar i'r gwenyn eraill.
Mae gan y wenynen golyn a gallant bigo, ond fel arfer gwnant hynny'n unig pan gredant eu bod dan fygythiad.
Cynnyrch [golygu]
Paill [golygu]
Mae gwenyn yn peillio planhigion sydd yn blodeuo a cheir ardaloedd ble mae'r gwenynwyr yn gosod cychod gwenyn ger planhigion masnachol er mwyn gwneud yn siwr fod y gwenyn yn gwneud eu gwaith.
Mêl [golygu]
Defnyddir mêl i roi blas ar fwyd. Mae blas mêl yn dibynnu ar y blodau o gwmpas cwch wenyn.
Cŵyr gwenyn [golygu]
Mae'r wenynen weithgar yn cynhyrchu cŵyr gwenyn i aeiladu'r crwybr cŵyr. Defnyddir cŵyr gwenyn i gynhyrchu canhwyllau a chŵyr dodrefn er engraifft.
Traddodiadau [golygu]
Mae gwenyn yn un o ryfeddodau natur sy'n ennyn ein cywreinrwydd. Ceir un o'r cyfeiriadau cynharaf atynt yn y Gymraeg yn y gerdd fytholegol Cadair Taliesin:
Pan yw dien gwlith
a llad gwenith
a gwlith gwenyn
anglud ac ystor.
Llyfr Taliesin, 32.6-7, wedi'i ddiweddaru ychydig).
Yn fuan iawn yn hanes y ddynoliaeth daeth dyn i werthfawrogi mêl gwyllt fel ffordd o felysu bwyd a hefyd, yn ddiwedarach, i wneud y ddiod gadarn gyntaf (yng ngogledd Ewrop), sef medd. Credid mai 'bwyd y duwiau' oedd mêl oherwydd na wyddai neb sut y'i cynhyrchid.[1]
Yn yr Oesoedd Canol credai Cristnogion fod yna gysylltiad uniongyrchol rhwng gwenyn, Paradwys a phechod dyn, fel y mae awdur Llyfr Cyfnerth yn esbonio: 'Bonhedd gwenyn o baradwys pan yw ac o achaws pechawt dyn y doethant odyno ac y dodes Duw y rat arnunt; ac wrth hynny ny ellir canu efferen heb y cwyr'.[2] Credid bod gwenyn yn moliannu Crist yn blygeiniol ar fore'r Nadolig.[3] Ond mae gwreiddiau'r goel Gristnogol i'w cael mewn traddodiad paganaidd hŷn. Yn ardal Abergele ar ddiwedd y 19 ganrif, yn ôl y bardd T. Gwynn Jones, gelwid 'crŵn gwenyn a chacwn a mân wybed eraill... yn "ganu'r Tylwyth Teg". Ymhen blynyddoedd, deuthum i wybod ei fod yn hysbys yn Iwerddon wrth enw tebyg, "ceol sidhe", canu'r Tylwyth Teg.'[4] Naturiol, felly, oedd cyffelybu'r beirdd i wenyn. Mae Dafydd Nanmor yn cyfeirio at y beirdd a ymdyrrai i lys Rhys o'r Tywyn 'i gannu fel mêl gwenyn'[5] Dywed Tudur Aled fod y Glêr (mân-feirdd neu feirdd crwydrol) yn heidio fel gwenyn i lys y Deon Cyffin: 'Nid amlach gwenyn i'r glyn no'r Glêr'[6] Credid bod gwenyn yn rhoddi rhagfynegiad o farwolaeth y penteulu naill ai drwy farw yn y cwch gwenyn neu gilio ohono.[7] Credid hefyd fod yna gysylltiad rhwng gwenyn a chorff Abel, brawd Cain, fel yn yr englyn hwn gan Bleddyn Ddu:
Cwning cân nwsing. Cywion isel - cainc,
Cyrff ifainc craff afel;
Cnwd o wybed cnawd Abel,
Cario maen' y cwyr a'r mêl. [8]
Roedd yn arferiad (ac efallai ei bod yn parhau) mewn rhai mannau yng Nghymru, pan fyddai rhywun yn marw i weddill y teulu fynd 'i ddweud wrth y gwenyn'.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ gw. Marged Haycock, 'Canu y Medd o Lyfr Taliesin', Dwned 1 (1995), 7-24, am drafodaeth.
- ↑ Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen (gol.), Drych yr Oesoedd Canol, Caerdydd 1986, t. 165.
- ↑ John Jones (Myrddin Fardd), Llen Gwerin Sir Gaernarfon, Caernarfon, d.d.=1908, t. 144, 268
- ↑ T. Gwynn Jones, Brithgofion, Llandebie, 1944, t. 10.
- ↑ Thomas Roberts (gol.), The Poetical Works of Dafydd Nanmor, Cardiff 1928, II.32.
- ↑ T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled, Caerdydd 1926, VIII.21; cf. LI.51-2.
- ↑ gw. Evan Isaac, Coelion Cymru, Aberystwyth 1938, t. 84.
- ↑ R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Bleddyn Ddu, Aberystwyth 1994, cerdd 9. Ymhellach ar wenyn yn llên yr Oesoedd Canol yn gyffredinol, gweler Drych yr Oesoedd Canol t. 163-5. a hefyd T. Charles-Edwards & F. Kelly (ed.), Bechbretha: An Old Irish Tract on Beekeeping, Dublin 1983, tt. 192-205.