Gwennol y Glennydd
Oddi ar Wicipedia
| Gwennol y Glennydd | |
|---|---|
| Gwennol y Glennydd ger ei nyth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Hirundinidae |
| Genws: | Riparia |
| Rhywogaeth: | R. riparia |
| Enw deuenwol | |
| Riparia riparia (Linnaeus, 1758) |
|
Aderyn sy'n aelod o'r teulu Hirundinidae (gwenoliaid) yw Gwennol y Glennydd (Riparia riparia), sy'n gyffredin trwy ran helaeth o Ewrop, rhannau o Ogledd Affrica, gogledd Asia a Gogledd America. Mae'n aderyn mudol, gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n treulio'r gaeaf yn nwyrain a de Affrica, de Asia a De America.
Mae'r aderyn tua 12 cm o hyd ac mae ganddo blu brown ar y cefn a gwyn ar ei fol, gyda brown ar draws y fron. Fel rheol mae nifer ohonyn nhw'n nythu gyda'i gilydd, mewn tyllau mewn clogwyni o dywod neu raean.
Mae Gwennol y Glennydd yn aderyn cyffredin yng Nghymru, ac mae'n un o'r adar mudol cyntaf i ddychwelyd yn y gwanwyn.