Gwennol Ddu

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwennol Ddu
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Apodiformes
Teulu: Apodidae
Genws: Apus
Rhywogaeth: A. apus
Enw deuenwol
'Apus apus'
(Linnaeus, 1758)

Er gwaethaf ei henw, nid yw'r Wennol Ddu ((Apus apus) yn perthyn yn agos i deulu'r Gwenoliaid; yn hytrach mae'n aelod o urdd yr Apodiformes. Daw'r enw o'r Groeg απους, apous ("heb draed"). Heblaw wrth y nyth, nid yw'r Wennol Ddu byth yn glanio o'i bodd; yn hytrach mae'n treulio ei holl fywyd yn hedfan.

Aderyn mudol ydyw, yn nythu yn Ewrop a rhan helaeth o Asia, ac yn gaeafu yn rhan ddeheuol Affrica. Defnyddir adeiladau ar gyfer nythu fel rheol. Mae'n aderyn gweddol gyffredin mewn cynefinoedd addas yng Nghymru.


Dosbarthiad y Wennol Ddu
Apus apus