Gwenhwyfach

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yn ôl un traddodiad, chwaer Gwenhwyfar gwraig Arthur oedd Gwenhwyfach neu Gwenhwyach. Ceir y cyfeiriad cynharaf ati gyda Gwenhwyfar yn chwedl Culhwch ac Olwen, fel 'Gwenhwyach', lle fe'i disgrifir fel "Gwenhwyach ei chwaer" yn llys Arthur.[1]

Cysylltir Gwenhwyfach â Brwydr Camlan mewn dau o Drioedd Ynys Prydain, sef 'Tair Gwith Balfawd Ynys Prydain' a 'Thri Ofergad Ynys Prydain'.[2] Dywedir i Arthur ymladd y frwydr honno yn erbyn ei nai, Medrawd, a laddwyd yn y frwydr. Ceir yr hanes yn llawn - gyda llawer o fanylion o ben a phastwn yr awdur ei hun - gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae, sy'n dweud fod Medrawd wedi cipio teyrnas Arthur a'i wraig, Gwenhwyfar. Ond mae'r traddodiad arall a geir yn y Trioedd yn dweud fod y cweryl rhwng Arthur a Medrawd wedi dechrau fel ffrae rhwng Gwenhwyfar a'i chwaer Gwenhwyfach.

Dyma'r unig gyfeiriadau at Wenhwyfach yn y traddodiad Cymreig. Fel yn achos ei "chwaer", mae enw Gwenhwyfach yn cynnwys yr elfen gwen ('gwyn'). Yn yr ystyr hen "sanctaidd, dwyfol", mae'n elfen a geir mewn enwau duwiesau a santesau, e.e. Gwenhidwy, Santes Gwenffrewi. Ym mytholeg y Celtiaid ac eraill nid yw'n anghyffredin gael sawl ffurf neu agwedd ar un bod dwyfol ac felly mae'n bosibl fod Gwenhwyfar a'i "chwaer" Gwenhwyfach yn ddwy agwedd ar yr un dduwies yn wreiddiol. Mae'r terfyniad -ach mewn enwau personol yn awgrymu benthyciad o'r Wyddeleg yma, yn ôl Rachel Bromwich.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd, 1988), tud. 13.
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, arg. newydd 1991), trioedd 53, 84.
  3. Trioedd Ynys Prydein, tud. 380.