Gwener yn y Drych

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwener yn y Drych (tua 1647–51). 122cm × 177cm (48mod × 49.7mod). Oriel Genedlaethol, Llundain.

Paentiad olew gan Diego Velázquez (1599–1660) ydy Gwener yn y Drych neu Fenws a Cupid, neu yn y Sbaeneg: La Venus del espejo. Roedd Velázquez yn flaenllaw iawn yn Oes Aur Sbaen. Gorffennwyd y gwaith rhwng 1647 a 1651,[1]; mae'n fwy na thebyg, i'r llun gael ei baentio ar ymweliad yr arlynydd â'r Eidal. Mae'r ferch yn y llun yn cynrychioli'r dduwies Rhufeinig Gwener ac mae hi'n gorwedd yn erotig ar wely yn edrych arni hi ei hun mewn drych sy'n cael ei ddal gan Cupid, ei mab. Cedwir y llun yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain.

Dyma'r unig lun o ferch noeth gan Velázquez, prined oeddynt yn yr oes honno yn Sbaen oherwydd yr Erlyniad Sbaenaidd (Spanish Inquisition).[2]. Er gwaetha'r erledigaeth gan yr eglwys babyddol, roedd mynd ar luniau o ferched noeth ac fe'u cesglid gan yr uchelwyr, fel hwn a fu ar waliau plasdai Sbaen hyd at 1813, pan ddaethpwyn ag ef i Rokeby Park, Swydd Efrog, Lloegr. Prynodd y National Art Collections Fund y llun yn 1906 ar gyfer yr Oriel Genedlaethol yn Llundain, ble y mae hyd heddiw. Ymosodwyd ar y llun yn 1914 gan y swffraget Mary Richardson and trwsiwyd ef yn llwyr a'i arddangos.

Disgrifiad[golygu]

Rhan o'r llun wedi ymosodiad y swffraget Mary Richardson yn 1914. Trwsiwyd y ganfas gan warchodwyr yr Oriel.[3]

Darluniwyd Gwener gan ragflaenwyr Velázquez gyda gwallt aur, ond du yw lliw gwallt ei Wener ef.[4] Nid oes yn y darlun, ychwaith y paraffenalia arferol a gysylltwyd yr adeg honno gyda'r dduwies: gemwaith, rhosod a myrtwydd. Gwelir rhubanau pinc dros y drych a'i ffram. Mae pwrpas, neu symboliaeth y rhain wedi peri cryn ddadlau o fewn y byd celf ac yn eu plith: yw iddynt gael eu defnyddio - eiliadau cynt - i glymu Gwener yn y modd mae cariadon yn clymu ei gilydd, neu fwgwd am ei llygaid, neu hyd yn oed i ddal y drych![4]

Yn ôl yr adolygydd celf Julián Gallego, mae golwg pell ar wyneb Cupid a'r rhubanau'n cydio'r dduwies yn dynn yn y ddelwedd o harddwch; rhoddodd enw amgen i'r darlun: "Amor yn cael ei goncro gan Brydferthwch".[5]

Mae plygiadau yng ngorchydd y gwely'n adlewyrchu ffurf a siap Gwener, ac yn datblygu siap tonnog ei chorff.[6] Amrywiaeth o liw coch, gwyn a llwyd yw prif liwiau'r darlun ac fe'u defnyddir hyd yn oed yng ngroen ei chorff. Mae cyfyngu i ychydig liwiau fel hyn wedi'i ganmol yn arw dros y blynyddoedd, ond datgelodd ymchwil gwyddonol mai porffor golau oedd y llwyd yn wreiddiol a'i fod wedi colli ei gryfder dros y blynyddoedd. Mae lliwiau cynnes a llachar ei chroen a daenwyd mewn modd tyner, llyfn yn cyferbynu'n arw gyda du a llwyd y gorchudd sidan mae'n gorwedd arno. [7][8] a gyda brown y wal y tu ôl i'w hwyneb.

Gwaddol[golygu]

Dylanwadodd Velázquez yn aruthrol ar y paentwyr a ddaeth ar ei ôl. Caiff ei adnabod fel y prif ddylanwad ar Édouard Manet - ffaith sy'n goblyn o bwysig pan ystyriwn mai Manet yw'r brif bont rhwng realaeth ac argraffiadaeth (impressionism). Galwodd Manet ef yn "baentiwr y paentwyr" a broliodd yn fwy na dim ei ddefnydd o'i frws cyflym, dewr mewn cyfnod Barocaidd o ddefnydd cynnil, perffaith, academaidd.

Oherwydd sensoriaeth y cyfnod, ychydig iawn o ddylanwad a gafodd ar arlunwyr y cyfnod a'i ddilynodd hyd at ganol y 19eg ganrif.[9] Cedwid y darlun am flynyddoed mewn ystafell breifat tan 1857 pan gafodd ei arddangos ym Manceinion. Ym 1890 fe'i arddangoswyd yn yr Academi Frenhinol yn Llundain ac yna ym 1905 gan y brodyr Agnews a brynnod y llun oddi wrth Morritt. O hyn ymlaen, roedd yn adnabyddus i lawer, a'i ddylanwad yn fawr gan iddo gael ei gopio mewn print.[10]

Mae symylrwydd Gwener yn ei gogoniant, heb unrhyw gemwaith, rhosod, myrtwydd ac yn y blaen ei gopio hefyd gan yr arlunwyr Ingres a Baudry.[9]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Gwener yn y Drych (Saesneg: The Rokeby Venus". National Gallery (Llundain). Adalwyd dydd Nadolig, 2007.
  2. MacLaren, tud. 126. a Carr, tud. 214.
  3. Potterton, Homan. The National Gallery. London: Thames and Hudson, 1977. 15
  4. 4.0 4.1 Prater, tud. 40.
  5. Gallego, Julián. "Vision et symboles dans la peinture espagnole du siecle d'or". Paris: Klincksieck, 1968. tud. 59f.
  6. Carr, tud. 214.
  7. Carr, tud. 217
  8. Keith, Larry; in Carr, p. 83.
  9. 9.0 9.1 Prater, tud. 114.
  10. Carr, tud. 103, a MacLaren, tud. 127.