Gwen Davies

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd: Gwen Davies (gwahaniaethu)

Golygydd a chyfieithydd Cymreig yw Gwen Davies (ganed 1960au).

Ganed Davies yr ieuengaf o bedwar o blant i deulu Cymraeg eu hiaith, a magwyd yn Otley, Gorllewin Efrog, Lloegr.[1][2] Ieithyddwyr oedd ei rhieni, ac roedd ei thad yn fardd.[3]

Dechreuodd Davies ei gyrfa yn 1985 fel cynorthwyydd golygyddol ac ysgrifennu erthyglau ar gyfer cylchgrawn Planet yn Aberystwyth. Daeth yn reolwr y cyhoeddwr llyfrau plant, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, yn ddiweddarach, cyn dod yn Swyddog Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ym 1995.[3]

Davies oedd Golygydd Ffuglen gwreiddiol Parthian Books, gan weithio ar gyfrolau nodweddiadol megis Fresh Apples gan Rachel Trezise, a ennillodd Gwobr Dylan Thomas. Bu hefyd yn olygydd Alcemi Books, sef imprint ffuglen lenyddol Y Lolfa. Daeth Davies yn olygydd newydd y New Welsh Review yn 2011, gan ail-wampio'r cylchgrawn. Mae'r newydd wedd yn cynnwys darluniau gan Jamie Hamley.[1]

Mae'n byw yn Aberystwyth gyda'i gŵr a'u mab a merch.[2]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. 1.0 1.1  A new New Welsh Review. Literature Wales (2011).
  2. 2.0 2.1  Gwen Davies. New Welsh Review.
  3. 3.0 3.1  Judy Darley (12 Gorffennaf 2009). Gwen Davies of Alcemi Books describes the working relationship between editors and authors. Essential Writers.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.