Gwen o Dalgarth

Oddi ar Wicipedia
Gwen o Dalgarth
Ganwyd463, 5 g Edit this on Wikidata
Penfro Edit this on Wikidata
Bu farw18 Hydref 544 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Dydd gŵyl18 Hydref Edit this on Wikidata
TadBrychan Edit this on Wikidata
PlantCaradog Freichfras Edit this on Wikidata

Santes oedd Gwen o Dalgarth ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[1] Etifeddodd Garth Madrun (Talgarth) gan ei mam-gu, Marchell. Priododd Llŷr Merini ac roedd yn fam i Garadog Freichfras.

Mae'n fwyaf nodedig am fyw bywyd Cristnogol ac am ei charedigrwydd.[2] Lladdwyd Gwen mewn ymosodiad gan lwyth paganaidd yn 492. Credir fod eglwys Talgarth yn sefyll ar y fan ble'i lladdwyd a gwnaethpwyd creirfa i'w chorff yno.

Tir o gwmpas eglwys Talgarth, safle Garth Madrun
Eglwys Santes Gwen o Dalgarth,Llys-wen, ar lan Afon Gwy Powys
Ffynnon Gwen ger Trefeca

Cysegriadau[golygu | golygu cod]

Mae eglwys Talgarth yn dal i ddwyn enw Gwen ac mae eglwys arall wedi'i chysegru iddi yn Llyswen. Heddiw mae'r ddwy eglwys yn defnyddio yr enw Gwendolen. Bu'r enw Gwendolen yn boblogaidd yn Lloegr yn Oes Fictoria ac mae'n debyg y newidiwyd enwau'r ddwy eglwys bryd hynny. Bu santes arall yn dwyn yr enw Gwendolen ond Gwen o Dalgarth yw nawddsant Talgarth a Llyswen.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dylid darllen yr erthygl hon yng nghyd-destun Santesau Cymru 388-680.

Ni ddylid ei chymysgu hi gyda Gwen o Gernyw na Gwen Teirbron.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jones, T.T. 1977, The Daughters of Brychan, Brycheiniog Cyf. XVII
  2. 2.0 2.1 Spencer, R, 1991, Saints of Wales and the West Country, Llanerch.