Blog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gweflog)
Neidio i: llywio, chwilio

Gwefan gan unigolyn neu grŵp sy'n cael ei ddiweddaru'n gyson gyda chofnodion mewn trefn wrth-gronolegol, gan amlaf gan ddefnyddio meddalwedd rheoli cynnwys megis Blogger, LiveJournal neu WordPress yw blog.

Mae'r term ''Blog'' yn dalfyriad o'r term Saesneg ''Web log'', a ddefnyddwyd yn wreiddiol i ddisgrifio cofnodion, neu log, o bethau diddorol roedd person yn eu darganfod ar y we.[1]

Nodweddir blogiau hefyd gan y gallu i roi sylwadau ar gofnodion, yn ogystal â ffrydiau RSS, sydd yn galluogi darllenwyr i dderbyn y cofnodion diweddaraf trwy ddarllenwr RSS. Mae RSS hefyd yn golygu y gall cynnwys blog gael ei ddosbarthu i wefannau eraill yn awtomatig wrth iddynt gael eu ddiweddaru.

Gall testun blog amrywio o hynt a helynt bywyd personol yr awdur i ganolbwyntio ar bwnc penodol, fel chwaraeon, crefydd neu wleidyddiaeth.[2] Mae yna hefyd flogiau sydd yn arbennig ar gyfer cofnodi lluniau yn uniongyrchol o ffôn symudol neu wedi eu llwytho o gamera digidol.

Enghreifftiau o flogiau Cymraeg a Chymreig[golygu]

Mae dros 400 o flogiau ar gael yn y Gymraeg[3] ond daeth cynnydd yn y niferoedd yn nechrau 2003, o bosibl yn sgil dylanwad Morfablog, un o'r blogiau Cymraeg cynharaf, yn unol a thŵf maes-e, gwefan drafod yn Gymraeg, lle bu galw ar bobl i ddechrau blogiau er mwyn cynyddu'r swmp o wefannau a gynhelir yn Gymraeg.

Mae cyfran o flogiau Cymraeg yn cael eu cynnal gan bobl sy'n byw y tu allan i Gymru, gyda llawer ohonynt heb gysylltiad â Chymru na'r iaith.[4]

Gellir gweld detholiad o gofnodion o flogiau Cymraeg ar y Blogiadur.

Lleoleiddio'r gwasanaethau blogio i'r Gymraeg[golygu]

Un o nodweddion gwasanaethau blogio yw eu hygyrchedd a'r gallu i gyfieithu'r patrymlun i'r Gymraeg. Mae platfform blogio Wordpress wedi ei leoleiddio i'r Gymraeg.[5]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. http://www.rebeccablood.net/essays/weblog_history.html
  2. Gweler er engrhaifft, Blog Droed am bêl-droed, Cristnogblog am weithgareddau Cristnogol yng Nghymru, a Blog Vaughan Roderick, blog Golygydd Materion Cymreig y BBC.
  3. Rhestr Blogiau Cymraeg Hedyn http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_Cymraeg
  4. (Saesneg) The Blogiadur—A community of Welsh language bloggers Cunliffe, D., a Honeycutt, C. (2008), tud. 6
  5. Pecyn iaith Cymraeg WordPress ar meddal.com