Gwedi Brad a Gofid

Oddi ar Wicipedia
Gwedi Brad a Gofid
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Clawr blaen Gwedi Brad a Gofid

Nofel gan T. Gwynn Jones yw Gwedi Brad a Gofid, a gyhoeddwyd gan Gwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig, Caernarfon, yn 1898. Nofel ramantaidd yn ôl chwaeth y cyfnod ydyw, ond yn wahanol i fwyafrif y nofelau Cymraeg eraill o'r cyfnod mae'r iaith a mynegiant yn raenus. Fe'i disgrifrwyd gan Thomas Parry yn Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 fel "stori gyffrous, ac ynddi blot cywrain".[1]

Cyhoeddwyd y nofel fesul pennod yn Yr Herald Cymraeg bob wythnos yn 1897-1898 cyn iddi gael ei chyhoeddi fel llyfr yn 1898.[2] Cyflwynodd T. Gwynn Jones y gyfrol er cof am ei fam. Dyma ei nofel gyntaf.

Manylion cyhoeddi[golygu | golygu cod]

Gwedi Brad a Gofid / gan T. Gwynn-Jones. (sic) / Caernarfon: argaphwyd gan Gwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig, cyf. / 1898.

Ni chafwyd ail argraffiad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944), tud. 279.
  2. David Jenkins, Thomas Gwynn Jones (Gwasg Gee, 1973), tud. 102-103.