Gwasg uwchben

Oddi ar Wicipedia

Ymarfer hyfforddi gyda phwysau lle mae pwysau'n cael ei godi o'r ysgwyddau tan fod y breichiau wedi'u hymestyn yn syth uwchben yw'r gwasg uwchben (a elwir weithiau yn gwasg ysgwydd hefyd). Gwneir yr ymarfer tra'n sefyll.

Symudiad[golygu | golygu cod]

Gwneir y symudiad drwy gymryd barbel a'i roi ar y deltoidau blaen. Gellir gwneud hyn drwy gymryd y barbel o'r rac neu drwy godi'r pwysau o'r llawr (codi a gwasgu). Gellir gwneud y symudiad gyda dymbelau hefyd, er nad oes rhaid iddynt orffwys ar y deltoidau.

Mae'r symudiad yn golygu codi'r barbel neu'r dymbelau o uchder yr ysgwydd a'u gwthio i fyny uwch y pen nes bod y breichiau'n syth. Rhaid ymestyn y cefn (mewn siâp bwa naturiol) ac nid wedi'i blygu. Wrth i'r bar basio'r pen, mae'r codwr yn pwyso ymlaen ychydig er mwyn cadw ei gydbwysedd. Wrth i'r bar gael ei ostwng yn ôl i'r ysgwyddau a phasio'r pen unwaith eto, mae angen pwyso'n ôl ychydig.

Mae'r ymarfer hwn yn hynod effeithiol er mwyn datblygu rhan uchaf y corff. Mae perfformio'r ymarfer tra'n sefyll yn galw ar nifer o grŵpiau o gyhyrau er mwyn cadw cydbwysedd a chynnal y codiad, o'i gymharu â'i wneud tra'n eistedd. Fel gyda chyrcydu a chelain godi, fe'i ystyrir yn ymarfer ar gyfer yr holl gorff.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Gwasg uwchben o'r Saesneg "Overhead press". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]