Gwasg milwrol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhan 1
Rhan 2

Amrywiad o'r ymarfer hyfforddi gyda phwysau "gwasg uwchben" ydy'r gwasg milwrol.

Mae'r gwasg milwrol yn targedu cyhyrau'r deltoid yn yr ysgwyddau yn ogystal â'r cyhyryn triphen. Yn ogystal â hyn, mae'n ymarfer y cyhyrau craidd a'r coesau, wrth i'r codi pwysau ddefnyddio'r cyhyrau hyn er mwyn sefydlogi'i hun.

Dechreua'r codiad wrth i'r codwr sefyll a'i sodlau yn cyffwrdd ei gilydd a'r barbel ar y deltoid blaen. Yna codir y barbel uwch y pen drwy wasgu cledrau'r dwylo yn erbyn ochr waelod y barbel.

Gellir gwneud yr ymarfer naill ai'n sefyll neu wrth eistedd.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Gwasg milwrol o'r Saesneg "Military press". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.

Cyfeiriadau[golygu]