Gwasg Gee

Oddi ar Wicipedia
Gwasg Gee
Mathcyhoeddwr, gwasg Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1808 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynoly fasnach lyfrau yng Nghymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
PerchnogaethT. Gee a'i Fab, Thomas Gee Edit this on Wikidata

Argraffdy a thŷ chyhoeddi Cymraeg yn Lôn Swan, Dinbych, oedd Gwasg Gee. Am ran haelaeth dwy ganrif bu'n un o brif weisg Cymru.

Yn 1808 roedd y Parch. Thomas Jones, a gofir fel awdur Hanes y Merthyron, wedi sefydlu gwasg yn 23 Stryd y Ffynnon, Rhuthun.[1] Daeth Thomas Gee Hynaf i weithio iddo o Lundain.[2] Yn Ebrill 1809, symudodd Thomas Jones a Gee Hynaf y wasg i dref Dinbych.[3] Yn 1813, ar ôl iddo gyhoeddi ei Hanes y Merthyron, gwerthodd Thomas Jones y wasg i Thomas Gee Hynaf.[3]

Cymerwyd y wasg drosodd gan ei fab, Thomas Gee yn ddiweddarach. Daethont yn adnabyddus am eu cyhoeddiadau Cymreig megis Y Faner a'r Gwyddoniadur Cymreig.

Ymunodd y bardd T. Gwynn Jones â'r wasg yn 1891, fel newyddiadurwr gyda'r Faner, cyn gadael i weithio ar Y Cymro - ond dychwelodd fel Is-olygydd Y Faner yn 1895.[4]

Yn 1914 gadawodd y wasg ddwylo'r teulu. Roedd yr awdures Kate Roberts a'i gŵr, Morris T. Williams, yn berchen ar y wasg yn ystod yr 1930au[5]. Caewyd y wasg yn 2001. Roedd bwriad troi'r adeilad yn Ninbych yn amgueddfa ond ni lwyddwyd i ddenu nawdd, ac felly mae cais wedi cael ei wneud i droi'r adeilad yn fflatiau.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhwydwaith Archifau Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 2007-10-29.
  2. T. Gwynn Jones, Cofiant Thomas Gee (Gee a'i Fab, Dinbych, 1913), tud. 15.
  3. 3.0 3.1 T. Gwynn Jones, Cofiant Thomas Gee (Gee a'i Fab, Dinbych, 1913), tud. 16.
  4. "'Rhwydwaith Archifau Cymru'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-01-15. Cyrchwyd 2008-12-29.
  5. Gwasg Gee ar wefan Casglu'r Tlysau[dolen marw]
  6. Gwasg Gee: Cais am 11 o fflatiau BBC 26 Hydref 2007
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.