Gwasanaeth Erlyn y Goron
Oddi ar Wicipedia
Gwasanaeth Erlyn y Goron (Saesneg: Crown Prosecution Service neu CPS) yw adran Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am erlyn achosion troseddol a archwilir gan yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr. Lleolir ei bencadlys yn Rose Court, Southwark, Llundain.
Mae'r Gwasanaeth yn gyfrifol am:
- Gynghori'r heddlu ar achosion y gellid eu herlyn.
- Adolygu achosion a gyflwynir gan yr heddlu.
- Lle penderfynir erlyn, pennu unrhyw gyhuddiadau ym mhob achos heblaw am rai bach.
- Paratoi achosion ar gyfer y llys.
- Cyflwyno achosion yn y llys.