Gwalia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am yr enw am Gymru yw hon. Gweler hefyd Gwalia (gwahaniaethu).

Enw arall am Gymru a ymddangosodd am y tro cyntaf yn yr Oesoedd Canol yw Gwalia. Cymreigiad ydyw o'r gair Lladin Canoloesol Wallia, sydd yn ei dro yn ffurf Ladin ar y gair Saesneg Wales. Erbyn heddiw anaml y mae'r enw yn cael ei ddefnyddio, ond bu'n boblogaidd iawn yn y 19eg ganrif.

Ceir sawl enghraifft o'r enw ym marddoniaeth Gymraeg cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. Ceir yr enghraifft fwyaf adnabyddus, efallai, yn y gân darogan a adweinir fel 'Yr Awdl Fraith'. Roedd y gerdd honno, a dadogir ar y bardd Taliesin, ymhlith y mwyaf poblogaidd o'r brudiau yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Yn ail ran y gerdd sonnir am y Saeson yn meddianu'r tir a'r Brythoniaid yn ffoi i'r gorllewin:

Sarffes gadwynog, falch anhrugarog, a'i hesgyll yn eurog, o Sermania.
Honno a oresgyn Lloegr a Ffrydyn o lan môr Llychlyn hyd Sabrina.
Yna y bydd Brython fal carcharorion mewn braint alldudion i'r Sacsonia.
Eu Ner a folant, eu hiaith a gadwant, a'u tir a gollant onid gwyllt Walia.[1]

Dyma ffynhonnell enw'r llyfr taith enwog Wild Wales ('Gwyllt Walia') gan George Borrow. Llai adnabyddus yw diwedd y gerdd, sy'n darogan buddugoliaeth y Cymry a gyrru'r Saeson yn eu holau allan o Ynys Brydain.

Yn y 19eg ganrif, gyda Rhamantiaeth mewn bri, daeth 'Gwalia' yn hynod boblogaidd fel enw am Gymru a cheir enghreifftiau niferus yng ngwaith llenorion y cyfnod. Erbyn heddiw mae'r enw wedi syrthio allan o fri oherwydd y naws Fictorianaidd sy'n perthyn iddo. Ond ceiff ei ddefnyddio weithiau mew ffordd ddychanol, e.e. yn y llyfr Gwalia Deserta gan Idris Davies.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 'Yr Awdl Fraith', testun Elis Gruffydd, Ystoria Taliesin gol. P.K. Ford (Caerdydd, 1992), tud. 86.

Gweler hefyd[golygu]