Gwalchwyfyn y benglog

Oddi ar Wicipedia
Acherontia atropos
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Sphingidae
Genws: Acherontia
Rhywogaeth: A. atropos
Enw deuenwol
Acherontia atropos
(Linnaeus, 1758)
Distribution map (red: all year distribution; orange: summer distribution possible)
Cyfystyron
  • Sphinx atropos Linnaeus, 1758
  • Acherontia sculda Kirby, 1877
  • Acherontia solani Oken, 1815
  • Acherontia atropos charon Closs, 1910
  • Acherontia atropos confluens Dannehl, 1925
  • Acherontia atropos conjuncta Tutt, 1904
  • Acherontia atropos diluta Closs, 1911
  • Acherontia atropos extensa Tutt, 1904
  • Acherontia atropos flavescens Tutt, 1904
  • Acherontia atropos griseofasciata Lempke, 1959
  • Acherontia atropos imperfecta Tutt, 1904
  • Acherontia atropos intermedia Tutt, 1904
  • Acherontia atropos moira Dannehl, 1925
  • Acherontia atropos myosotis Schawerda, 1919
  • Acherontia atropos obscurata Closs, 1917
  • Acherontia atropos obsoleta Tutt, 1904
  • Acherontia atropos pulverata Cockayne, 1953
  • Acherontia atropos radiata Cockayne, 1953
  • Acherontia atropos suffusa Tutt, 1904
  • Acherontia atropos variegata Tutt, 1904
  • Acherontia atropos violacea Lambillion, 1905
  • Acherontia atropos virgata Tutt, 1904

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwalchwyfyn y benglog, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwalchwyfynod y benglog; yr enw Saesneg yw Death's-head Hawk-moth, a'r enw gwyddonol yw Acherontia atropos.[1][2]

Cylched bywyd
Siani flewog
Chwiler
Chwiler
Oedolyn

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwalchwyfyn y benglog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Hanesion unigol[golygu | golygu cod]

  • Lindysen fawr “hynod o liwgar ac yn anferth wedi ei weld yn Mhenrallt Pwllheli” 31 Awst 2019 [2] wedi ei gofnodi ar Grwp FB Cymuned Llên Natur gan Dyfed Ellis Pritchard.
  • Mae un o blant dosbarth Conwy, Ysgol Bro Gwydir wedi dod a gwyfyn i'r ysgol. Cafodd y plentyn y gwyfyn tra ar wyliau yn Lanzarote [yn 2010]. “Ar ol edrych ar y we, rydym yn meddwl mae Death Head Hawk moth [gwalchwyfyn y benglog] ydy o. Ydy o’n byw yng Nghymru?”
  • 24 Awst 1987 Adroddiad ar Radio Cymru am walchwyfyn penglog yn cyrraedd Ynys Mon. Awgrymodd Huw John Huws mai'r un tywydd a ddaeth a'r tywod o'r Sahara wythnos diwethaf gludodd y gwyfynod yma (haenen dywod dros geir yr ardal)[3]
  • Gwalchwyfyn y Benglog yn 1973? Dangoswyd paentiad o Walchwyfyn y Benglog mewn dyfrlliw a phensil, mewn arddangosfa o luniau Elsie Eldridge, Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Pwllheli, Ebrill 2013.[3] Dyddiad y llun oedd 1973, blwyddyn casglu’r pryf tybed?[4]
  • Mai 1954: Un yng nghyffiniau Ysgol Dr. Williams, Dolgellau ddechrau Mai 1954[5]
  • Cafodd rhai eu gweld yn y blyddoedd hyn: 1825, 1954, 1970, 1971, (1973?) 1976, 1983, 1984, 1987, 1998, 2003. Ewch I’r Tywyddiadur [4] i weld mwy.
  • Roedd 1865 yn arbennig o dda i wyfyn mwyaf Cymru, ac yn fewnfydwr mewn blynyddoedd ffafriol[6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Y Bywiadur [1] ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. Bwletin Llên Natur rhif 23
  4. Bwletin Llên Natur rhifyn 63
  5. Field Notes, Nature in Wales 1i
  6. Bwletin Llên Natur rhifyn 149